MANYLION
  • Lleoliad: Schools,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 02 Mawrth, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro\/awes Cynradd (Ll C Cynllun Pontio) - Ysgol Dyffryn Conwy

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon

Ysgol Dyffryn Conwy

Yn eisiau erbyn Medi 2025

Athro/Athrawes Cynradd (cynllun pontio Llywodraeth Cymru)

Graddfa Cyflog Athrawon

Contract dros dro hyd at 31/08/2026

Mae'r ysgol yn awyddus i benodi Athro / Athrawes Cynradd sydd â diddordeb mewn trosglwyddo i'r sector uwchradd fel rhan o gynllun pontio Llywodraeth Cymru. Bwriad y cynllun yw cynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg o fewn y sector uwchradd. Fel rhan o'r cynllun byddwch yn ymuno â thîm addysgu Ysgol Dyffryn Conwy am flwyddyn gan dderbyn cefnogaeth wrth addysgu o fewn y sector uwchradd. Gwahoddwn geisiadau gan athrawon brwdfrydig a blaengar o'r sector cynradd sydd â diddordeb mewn ehangu eu profiadau mewn ysgol uwchradd. Yn ogystal, croesewir ceisiadau gan athrawon cynradd ac uwchradd sydd am ddychwelyd i ddysgu yng Nghymru neu athrawon sydd am ddychwelyd i'r proffesiwn.

Mae Ysgol Dyffryn Conwy yn ysgol Gymunedol Gymraeg (Categori 3) gyda 651 o ddisgyblion oedran 11-18 yn cynnwys 120 yn y Chweched Dosbarth. Lleolir yr ysgol yn nhref Llanrwst gyda'r ysgol yn gwasanaethu'r dref a'r holl Ddyffryn.

Yn Ysgol Dyffryn Conwy credwn yn gryf mewn partneriaeth a'r disgyblion, rhieni a'r gymuned ehangach. Cynigwn i bob disgybl beth bynnag eu gallu a chefndir ymdeimlad o werth, hunan hyder ac ysgol hapus a chartrefol. Anelwn at ddarparu'r addysg orau posib i ddatblygu dysgwyr yn hyderus ddwyieithog ac yn ddysgwyr annibynnol gyda'r sgiliau angenrheidiol i'r dyfodol.

Ein nod yw datblygu pob plentyn er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd eu potensial mewn sawl maes a thrwy amrywiol weithgareddau a chyfleoedd. Sicrheir cwricwlwm addas, eang a heriol i bob plentyn. Credwn mewn llwyddiant i bawb, gan roi pob cymorth iddynt lwyddo.


  • Cynllunio gwersi
  • Asesu, marcio ac adborth
  • Rheolaeth ddosbarth
  • Datblygu dycnwch
  • Sgiliau ieithyddol (yn ddibynnol ar anghenion yr unigolyn).
Bydd gennych Gefnogwr Proffesiynol o fewn yr ysgol a fydd yn cynnal deialog broffesiynol rheolaidd er mwyn eich cefnogi. Bydd eich amserlen yn cynnig cyfnodau estynedig i gynllunio, ymchwilio ac arsylwi yn ogystal ag amserlen ddysgu.

Edrychwn am unigolion brwdfrydig sydd â gweledigaeth gadarn dros ddatblygu disgyblion yn ddysgwyr annibynnol, hyderus a llwyddiannus. Mae'r cyfle hwn yn agored i geisiadau llawn amser neu ran amser.


Proses ymgeisio :

Nodwch os gwelwch yn dda NI DDYLID ymgeisio i'r ysgol yn uniongyrchol. Dylech ymgeisio drwy lenwi'r ffurflen gais yma gan nodi eich dymuniad o ran lleoliad. Anfonwch eich cais gorffenedig i Lywodraeth Cymru trwy AthrawonCC.WMTeachers@llyw.cymru erbyn y dyddiad cau, sef 00:59 dydd Sul, 2 Mawrth 2025.

Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal yn yr ysgolion partner rhwng 17-28 Mawrth 2025.

Mae mwy o fanylion am y cyfle hwn ar Cynllun pontio cynradd i uwchradd cyfrwng Cymraeg neu os hoffech drefnu ymweliad â'r ysgol neu sgwrs anffurfiol cysylltwch â'r Pennaeth - Owain Gethin Davies ar cyff@dyffrynconwy.conwy.sch.uk

Oherwydd natur y swydd bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae yn ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda y Cyngor Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon. Mae'r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol i'r swydd yma.

This form is also available in English