MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Monmouth, Monmouthshire, NP25 5BA
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Blynyddol
- Iaith: Saesneg
- Dyddiad Cau: 06 Mawrth, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro/Athrawes Dosbarth a Chydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol - Ysgol Gynradd Overmonnow
Cyngor Sir Fynwy
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â’n Ysgol Gynradd wych yn gweithio fel ymarferydd ystafell dosbarth effeithlon ac fel y Cydlynydd ADY ar draws yr ysgol brif ffrwd.
Mae plant, staff a llywodraethwyr Ysgol Gynradd Overmonnow yn dymuno penodi unigolyn brwdfrydig ac ymroddedig a gyda chymhelliant uchel i sicrhau fod gan ein dysgwyr gydag anghenion dysgu ychwanegol ddarpariaeth effeithlon i ddiwallu eu hanghenion, ynghyd â bod yn ymarferydd dosbarth effeithlon. Bydd y swydd yn ddau ddiwrnod fel Cydlynydd ADY (yn cynnwys amser PPA) a dau ddiwrnod o ymrwymiad addysgu (gallai’r patrwm hwn amrywio o flwyddyn i flwyddyn).
Mae angen i ymgeiswyr fedru gweithio fel rhan o dîm deinamig a chydlynol i sicrhau y caiff plant brofiadau dysgu cadarnhaol a’u cefnogi i wneud cynnydd yn eu dysgu a llesiant.
Mae’r swydd i ddechrau o fis Medi 2025.
CYFLWYNIAD
Mae’r disgrifiad swydd hwn yn ategu’r safonau, gwerthoedd a nodweddion a ddynodir yn y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth 2018. Bydd yr Athro/Athrawes yn alinio â, arddangos a hyrwyddo’r gwerthoedd a’r nodweddion trosfwaol a ddiffinnir o fewn y Safonau Proffesiynol sef:
1. Hawl proffesiynol
2. Yr iaith Gymraeg a’i diwylliant
3. Hawliau dysgwyr
4. Llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol
5. Y dysgwr proffesiynol
6. Rôl y system
Mae angen i ddeiliad y swydd ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau proffesiynol Athro/Athrawes fel y’u nodir yn Nogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol.
D.S. Dylid defnyddio’r disgrifiad swydd hwn mewn cysylltiad â disgrifiad swydd Athro/Athrawes Dosbarth.
DIBEN Y SWYDD
• Gweithio’n strategol gyda’r uwch dîm arweinyddiaeth a llywodraethwyr i sicrhau fod y lleoliad addysg yn cyflawni ei gyfrifoldebau dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg, y Drafft God (2018) a’r Ddeddf Cydraddoldeb (2010).
• Cymryd rôl strategol wrth gynllunio a chyflwyno darpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc gydag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).
• Sicrhau y caiff anghenion plant a phobl ifanc sydd â ADY eu dynodi a’u diwallu’n briodol, y caiff eu hannibyniaeth ei hyrwyddo ac y cânt eu cefnogi i wneud o leiaf gynnydd da a chyflawni eu potensial llawn.
• Hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg a Drafft God 2018 a chefnogi gweithredu’r broses bontio o AAA i ADY.
• Cefnogi gwelliant yr ysgol, datblygiad proffesiynol a dysgu.
Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau
• Goruchwylio gweithredu trefniadau’r ysgol ar gyfer ADY o ddydd i ddydd. Mae hyn yn cynnwys cyfrannu at ddatblygu a gweithredu gweithdrefnau a system ADY priodol o fewn yr ysgol, yn cynnwys cynllunio ariannol strategol, defnyddio adnoddau, casglu data a dadansoddi yn effeithlon, gyda golwg at wella deilliannau ar gyfer dysgwyr gyda ADY.
• Rhoi cymorth proffesiynol i’r holl staff i alluogi adnabod cynnar, asesu a chynllunio ar gyfer dysgwyr gyda ADY, gallai hyn gynnwys cefnogi staff gyda rheoli systemau olrhain a gosod targedau da.
• Bod â chyfrifoldeb cyffredinol wedi’i ddynodi gan y corff llywodraethu ar gyfer sicrhau fod Cynllun Datblygu Unigol gan yr holl ddysgwyr ar draws y lleoliad gyda ADY sydd angen darpariaeth ddysgu ychwanegol. Mae hyn yn cynnwys cynllun gweithredu a gwneud trefniadau ar gyfer adnabod ADY dysgwyr a chydlynu’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sy’n diwallu’r anghenion hynny.
• Pryd bynnag mae gan yr ysgol ddyletswydd penderfynu os oes gan ddisgybl neu fyfyriwr ADY, i sicrhau a goruchwylio’r broses a datblygu’r Cynllun Datblygu Unigol lle mae angen.
• Sicrhau y caiff Cynlluniau Datblygu Unigol eu datblygu a’u hadolygu’n briodol.
• Sicrhau y caiff Cynlluniau Datblygu Unigol ac unrhyw gofnodion cysylltiedig yn ymwneud ag ADY a darpariaeth ddysgu ychwanegol disgyblion/myfyrwyr eu cynnal a’u cadw’n gyfredol.
• Goruchwylio’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol ar draws yr ysgol i ddiwallu’r anghenion a ddynodwyd o fewn Cynlluniau Datblygu Unigol. Mae hyn yn golygu sicrhau y caiff y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol ei hadolygu’n gyson a gall gynnwys arwain y broses adolygu i sicrhau fod y ddarpariaeth yn parhau i ateb yr anghenion a ddynodwyd.
• Sicrhau gwasanaethau perthnasol fydd yn cefnogi darpariaeth ddysgu ychwanegol dysgwyr fel sydd angen. Mae hyn yn cynnwys cydlynu gydag asiantaethau allanol a gwasanaethau arbenigol.
• Gweithredu fel y man cyswllt allweddol ar gyfer gwasanaethau cynhwysiant a chymorth yr awdurdod lleol, asiantaethau allanol, sefydliadau annibynnol/gwirfoddol, gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol, seicolegwyr addysgol ac yn y blaen.
• Cydlynu gyda a darparu gwybodaeth ar gyfer plant, pobl ifanc neu rieni plant gydag ADY ar sail gyson am ADY dysgwyr, eu darpariaeth ddysgu ychwanegol a’u Cynlluniau Datblygu Unigol.
• Monitro effeithlonrwydd y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol, monitro effaith ymyriadau ac asesu cynnydd a gyflawnwyd ar ddeiliannau a gynlluniwyd ar gyfer pob dysgwr gyda ADY. Lle nad yw cynnydd yn cyrraedd disgwyliadau, i adolygu’r ymyriadau ac addasu yn unol â hynny.
• Hyrwyddo cynhwysiant dysgwyr yn yr ysgol a sicrhau mynediad teg i’r cwricwlwm, cyfleusterau a gweithgareddau allgyrsiol.
• Cefnogi dysgwyr gyda Chynllun Datblygu Unigol gyda phontio rhwng lleoliadau addysg, astudiaeth bellach neu waith. Mae hyn yn cynnwys goruchwylio trosglwyddo gwybodaeth yn briodol rhwng lleoliadau addysg am ADY a darpariaeth ddysgu ychwanegol y dysgwr. Mae hefyd yn cynnwys cydlynu gydag arbenigwyr gyrfa i sicrhau fod dysgwyr gyda ADY yn derbyn cyngor priodol ar yrfaoedd.
• Paratoi ac adolygu’r wybodaeth sydd angen i’r corff llywodraethu ei chodi yn unol â’r Cod ADY, yn cynnwys polisïau perthnasol.
• Cynghori athrawon a ddulliau addysgu gwahaniaethol ansawdd uchel sy’n addas ar gyfer unigolion gyda ADY.
• Cynghori ar a chyfrannu at y cymorth ehangach o fewn yr ysgol, yn cynnwys dysgu proffesiynol staff eraill. Mae hyn yn cynnwys cyfrannu at hyfforddiant mewn swydd ar gyfer athrawon a goruchwylio a threfnu hyfforddi cynorthwywyr addysgu sy’n gweithio gyda dysgwyr gyda ADY.
• Bod yn ffynhonnell arbenigedd ar ADY drwy ddatblygu sgiliau a gwybodaeth arbenigol a chadw’n gyfredol ar y canllawiau diweddaraf sydd ar gael ar ADY.
• Parhau i ddatblygu eich dysgu proffesiynol eich hun drwy gydlynu gyda Chydlynwyr ADY eraill, lleoliadau arbenigol a gweithwyr proffesiynol i ddatblygu a rhannu profiad ac arfer gorau. Mae hyn yn cynnwys sicrhau cadw eich cofnod yn gyfredol gyda Chyngor y Gweithlu Addysg yng nghyswllt swyddi a dysgu proffesiynol yn ymwneud ag ADY.
• Sicrhau bod yr awdurdod lleol yn rhoi trefniadau ar waith yng nghyswllt osgoi a datrys anghytundeb a’u defnyddio’n llawn fel sy’n briodol.