MANYLION
  • Lleoliad: Raglan, Monmouthshire, NP15 2EP
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Saesneg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Arlwyo - Ysgol Gynradd Raglan

Cyngor Sir Fynwy
Rydym yn chwilio am berson i lenwi’r rôl fel Cynorthwyydd Arlwyo yn Ysgol Gynradd Raglan. Bydd dyletswyddau yn cynnwys paratoi, gweini, clirio, golchi a glanhau.

Dylai’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn chwaraewr tîm, ac yn meddu ar y gallu i gyfathrebu yn effeithiol ac effeithlon gyda staff ar bob lefel.

Bydd angen cymhwyster Hylendid Bwyd CIEH Lefel 2 ond nid yw hyn hanfodol gan y bydd hyfforddiant priodol yn cael ei ddarparu i’r ymgeisydd llwyddiannus.

Darparu bwyd i holl Ysgolion Cynradd Cyngor Sir Fynwy a’n sicrhau bod y bwyd yr ydym yn darparu yn diwallu anghenion Rheoliadau Bwytan Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013 (‘Rheoliadau). Mae’r Rheoliadau yma yn seiliedig ar y canllawiau blaenorol ‘Appetite for Life’ ac yn ffurfio rhan ehangach o’r Mesur Bwytan Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009 (‘Mesur’).
Mae’r Rheoliadau sydd wedi eu hamlinellu yn y safonau maeth ar gyfer pryd bwyd ysgol arferol a’r anghenion bwyd a diod drwy gydol y diwrnod ysgol. Mae’r safonau maeth yn gosod isafswm ac uchafswm penodol o ran gwerthoedd ar gyfer egni a 13 o faethynnau ac maent yn berthnasol i bryd bwyd ysgol arferol sydd yn cael ei gyfrif bob wythnos fel rhan o’r fwydlen. Mae’r gofynion bwyd a diod yn disgrifio’r math o fwyd a diod sydd yn rhaid eu darparu, eu cyfyngu a’r rhai na sydd yn cael eu caniatáu rhwng brecwast a 6pm.


Pwrpas y Rôl:-
Rydym yn chwilio am berson i lenwi’r rôl fel Cynorthwyydd Arlwyo yn Ysgol Gynradd Rhaglan. Bydd dyletswyddau yn cynnwys paratoi, gweini, clirio, golchi a glanhau.

Disgwyliadau a Chanlyniadau’r Rôl hon:-
Bydd disgwyl i chi gynorthwyo gyda’r broses o sicrhau bod y gwasanaeth prydau bwyd ysgolion yn cael ei ddarparu yn ddidrafferth ar unrhyw safle addysgol.

Dylai’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn chwaraewr tîm, ac yn meddu ar y gallu i gyfathrebu yn effeithiol ac effeithlon gyda staff ar bob lefel.

Bydd angen cymhwyster Hylendid Bwyd CIEH Lefel 2 ond nid yw hyn hanfodol gan y bydd hyfforddiant priodol yn cael ei ddarparu i’r ymgeisydd llwyddiannus.

Bydd eich cyfrifoldebau yn cynnwys:-
• Gweithio o dan oruchwyliaeth y cogydd a/neu’r cogydd cynorthwyol.

• Dilyn unrhyw gyfarwyddiadau o ran paratoi, coginio a gweini bwyd neu glirio, golchi neu lanhau.

• Yn barod i weithio ar unrhyw amser rhesymol pan fydd yr uned arlwyo

• Yn barod i weithio oriau ychwanegol fel sydd angen o ganlyniad i absenoldeb pobl eraill neu'r galw cynyddol am brydau bwyd ayyb.

• Meddu ar Hylendid Bwyd Lefel 2 CIEH (byddwn yn cynnig hyfforddiant os nad yw’r ymgeisydd yn meddu ar hyn).

• Gweithio fel rhan o dîm arlwyo Sir Fynwy ar unrhyw safle addysgol.

• Mynd ar unrhyw gyrsiau hyfforddi fel sydd angen ar gyfer y swydd.

• Cydymffurfio gyda’r gofynion sydd wedi eu hamlinellu yn Llawlyfr Gweithdrefnau Arlwyo Sir Fynwy o ran safonau ansawdd.

• Cydymffurfio gyda rheoliadau Iechyd a Diogelwch.

• Cydymffurfio ag egwyddorion ac arferion cyfleoedd cyfartal fel sydd wedi eu hamlinellu ym Mholisi Cyfle Cyfartal y Cyngor.

• Rhaid cymryd gwyliau yn ystod gwyliau ysgol.