MANYLION
  • Lleoliad: Llandudno,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa G05 pwynt 12-19 £20,945 - £23,482 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 05 Mawrth, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Dadansoddydd Ymddygiad Cynorthwyol - Ysgol Y Gogarth

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: Graddfa G05 pwynt 12-19 £20,945 - £23,482 y flwyddyn

YSGOL Y GOGARTH

Ysgol Ddydd/Breswyl Arbennig i ddisgyblion ag Anghenion Addysgol Arbennig

(275 ar y gofrestr, ystod oedran 3 i 19)

Ffordd Nant y Gamar, Llandudno, LL30 1YE

Ffôn: 0300 456 9521

Pennaeth: Mrs Lisa Kovacs

I ddechrau mis Ebrill 2025

DADANSODDYDD YMDDYGIAD CYNORTHWYOL

Parhaol

Mae Ysgol y Gogarth yn ysgol Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) i ddisgyblion rhwng 3 ac 19 oed, yn Llandudno, Gogledd Cymru. Rydym yn recriwtio ar gyfer dadansoddydd ymddygiad cynorthwyol i'n cefnogi i ddarparu gwasanaeth dadansoddi ymddygiad o ansawdd uchel ar draws yr ysgol. Yn Ysgol y Gogarth mae dadansoddwyr ymddygiad yn cydweithio ag athrawon, cymhorthwyr addysgu, a gweithwyr proffesiynol eraill i wella addysgu a dysgu ar gyfer yr holl ddisgyblion.

Mae dadansoddwyr ymddygiad cynorthwyol yn gweithio ochr yn ochr â dadansoddwyr ymddygiad i gwblhau asesiadau swyddogaethol, a chynorthwyo â'r gwaith o ysgrifennu cynlluniau ymddygiad effeithiol yn seiliedig ar swyddogaethau.

Bydd dadansoddwyr ymddygiad cynorthwyol hefyd yn cwblhau asesiadau cwricwlwm ac yn casglu data gwaelodlin i gefnogi'r gwaith o ysgrifennu cynlluniau datblygu sgiliau unigol, gan gynnwys cynlluniau addysgu y blynyddoedd cynnar a rhaglenni sgiliau bywyd swyddogaethol.

Nod y tîm yw dysgu'r sgiliau mae eu hangen ar ddisgyblion i gyflawni eu potensial llawn, a lleihau unrhyw rwystrau rhag dysgu i sicrhau y gall y disgyblion ymgysylltu'n llawn â bywyd yr ysgol.

Gweler y Swydd-ddisgrifiad i gael rhagor o wybodaeth am ddyletswyddau a chyfrifoldebau.

Mae'r swydd yn cynnig cyfle gwych ac unigryw i gael profiad gwerthfawr ym maes ymddygiad mewn ysgol ADY. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn ymuno â thîm ymroddedig o Ddadansoddwyr Ymddygiad y Bwrdd Ardystio (BCBA) a fydd yn darparu hyfforddiant, cymorth a goruchwyliaeth parhaus. Bydd BCBA neu UKBA(cert) yn goruchwylio ymgeiswyr sy'n gweithio tuag at ardystiad.

Mae'r Corff Llywodraethu yn gwahodd ceisiadau am y swydd hon.

Gweler y Swydd-ddisgrifiad a Manylion yr Unigolyn am ragor o wybodaeth. Mae profiad o weithio gyda disgyblion ag amrywiaeth o Anghenion Dysgu Ychwanegol yn ddymunol.

Oherwydd natur y swydd bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun datgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Bydd yn ofynnol i'r ymgeiswyr llwyddiannus gofrestru â'r Cyngor Gweithlu Addysg cyn dechrau'r swydd.

I wneud cais am y swydd hon, ewch i www.conwy.gov.ukljobs i gyflwyno eich cais ar-lein.

Sylwer - nid yw'r awdurdod bellach yn darparu ffurflenni cais nac yn derbyn CV.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirda yn gael eu gwirio

Os na fydd ymgeiswyr wedi clywed gennym cyn pen 3 wythnos ar ôl y dyddiad cau dylent ragdybio nad ydynt wedi'u rhoi ar y rhestr fer i gael cyfweliad ac ni fyddant yn cael gwybod am hyn yn ysgrifenedig

Er mwyn hyrwyddo cyfle cyfartal mae Conwy yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni gofynion hanfodol y swydd yn cael cyfweliad.

This form is also available in English