MANYLION
  • Lleoliad: Bangor,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: £11,046.70 - £11,288.94 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 03 Chwefror, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwy-ydd Gweinyddol, Tymor yn Unig

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £11,046.70 - £11,288.94 y flwyddyn

Mae'r rôl hon o fewn y maes Celf a Dylunio yn yr adran Celfyddydau Creadigol yng Ngholeg Menai. Mae llwyddiant y cyrsiau Celf yn cael ei barchu ledled Cymru a thu hwnt, gyda chyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i lwyddiant cenedlaethol a rhyngwladol o fewn y sector Celf.

Mae'r swydd wedi'i leoli ar gampws Celf ym Mharc Menai. Mae Campws Newydd Bangor - sydd newydd agor ym mis Medi 2024, ac yn gartref i weddill yr adran Celfyddydau Creadigol - ond ychydig o funudau i ffwrdd. Mae hyn yn golygu bod datblygiadau cyffrous ar y gweill, gyda'r dysgwyr creadigol Coleg Menai i gyd yn agos at ei gilydd.

Dyma gyfle gwych i ymuno â'n tîm llwyddiannus, deinamig a chefnogol a bydd deilydd y swydd chwarae rhan bwysig wrth ddarparu gwasanaeth gweinyddol/derbynfa i'r adran Celfyddydau Creadigol.

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CM/114/25

Cyflog
£11,046.70 - £11,288.94 y flwyddyn

Lleoliad Gwaith
  • Bangor

Hawl gwyliau
28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (1 Medi i 31 Awst).

Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.

Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod wedi cau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.

Bydd gan y rhai ar gontractau Amser Tymor hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod a delir fel rhan o'r cyflog blynyddol.

Patrwm gweithio
18.5 awr yr wythnos

39 wythnos y flwyddyn, yn ystod tymor y Coleg

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Math o gytundeb
Rhan Amser Parhaol

Dyddiad cau
03 Chwef 2025
12:00 YH(Ganol dydd)