MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ar draws pob campws,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Gradd Gyflog 5\/6 : £29,004 - £35,131
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 02 Chwefror, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Gradd Gyflog 5\/6 : £29,004 - £35,131
Swyddog Ymgyrchoedd Marchnata DigidolGradd Gyflog 5/6 : £29,004 - £35,131 y flwyddyn
Llawn Amser a Pharhaol
Pwrpas y Swydd: Gan ddefnyddio eich sgiliau creadigol, byddwch yn cynhyrchu ac yn optimeiddio cynnwys, gan arddangos profiadau a straeon cymuned Coleg Penybont. Bydd monitro mewnwelediadau a dadansoddeg yn bwysig i chi, gan eich helpu i gynyddu cyrhaeddiad ac ymgysylltiad ar draws ein sianeli cyfryngau cymdeithasol amrywiol. Byddwch yn gwybod am dueddiadau presennol a rhai sy'n dod i'r amlwg ac yn gallu addasu i gyrraedd cynulleidfaoedd presennol a newydd.
Byddwch yn cynllunio ac yn rheoli platfformau cyfryngau cymdeithasol y Coleg gan gynnwys creu, amserlennu a thargedu cynnwys ar draws platfformau, gan gynnwys TikTok, Instagram, Facebook a LinkedIn; defnyddio offer mewnwelediad cymdeithasol i gynhyrchu adroddiadau i lunio allbynnau marchnata a sicrhau bod ymgyrchoedd yn cyrraedd eu hamcanion. Bydd gennych radd neu brofiad cyfatebol amlwg, a phrofiad o redeg ymgyrchoedd hysbysebu digidol taledig/noddedig gan ddefnyddio targedu priodol, a mesur canlyniadau a llwyddiant. Mae sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol trwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol iawn.
Am wybodaeth bellach, edrychwch ar y pecyn gwybodaeth swydd .
Dyddiad cau: 02/02/2025
Dyddiad cyfweliad: TBC
Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses lem i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae'r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig / boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion.
Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n gallu dangos sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a yw'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.
Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.
Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Anabledd Hyderus ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un ag anabledd os yw eu cais yn cwrdd â'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.
Noder gall fod gofyniad am gyfweliad neu asesiad ail gam.