MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Pen-y-bont ar Ogwr,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Not Supplied
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Darlithydd Camu Ymlaen a delir fesul awr
Noder, contract a delir yn ôl yr awr yw hwn, sy'n golygu na ellir gwarantu dyddiau nac oriau penodol - fe'u cynigir ar sail achlysurol, ad hoc, i fodloni anghenion y gwasanaeth, felly gallant amrywio.
Digymhwyster: £25,371 - £29,7942 y flwyddyn (pro rata, tȃl fesul awr)
Cymwysedig: £32,304 - £49,934 y flwyddyn (pro rata, tȃl fesul awr)
Mae gennym gyfle cyffrous i chi ymuno â'n tîm angerddol a brwdfrydig yng Ngholeg Penybont. Fel darlithydd a delir fesul awr, byddwch yn cynllunio, yn datblygu ac yn darparu cynnwys y cwricwlwm mewn modd effeithiol ac effeithlon.
Mae'r rhaglen Camu Ymlaen yn dod â chyfuniad cyffrous o lwybrau galwedigaethol Lefel 1 at ei gilydd mewn un gofod bywiog a chefnogol. Mae Camu Ymlaen yn hyb canolog lle mae myfyrwyr yn cael mynediad i dîm cymorth ymroddedig ar gyfer gofal bugeiliol a chymorth sgiliau. Cynhelir gweithgareddau cyffrous trwy gydol y flwyddyn i ennyn diddordeb dysgwyr a chefnogi datblygiad eu sgiliau craidd. Yma, gall myfyrwyr ddatblygu eu sgiliau Addysg Gysylltiedig â Gwaith, cymwysterau mewn TG, Trin Gwallt, Therapi Harddwch, Gofal ac Astudiaethau Plentyndod, Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu'r Cyfryngau.
Gofynnwn i chi fod ag ymwybyddiaeth gadarn o gwricwlwm un o'r meysydd a nodwyd uchod. Bydd gennych y wybodaeth a'r profiad diweddaraf o ran cyflwyno cwrs, yn ddelfrydol gyda thystysgrif TAR (neu byddwch yn barod i'w hennill), a bydd gennych sgiliau rhyngbersonol rhagorol, gyda'r gallu i uniaethu â phoblogaeth eang ac amrywiol o fyfyrwyr a bod yn angerddol am ysgogi pob dysgwr.
Os ydych chi'n credu y gallwch gyfrannu at y dysgu a'r addysgu yn y maes yma, hoffem glywed gennych! Cliciwch ar y pecyn swydd-wybodaeth i gael rhagor o wybodaeth.
Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses lem i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae'r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig ar gyfer gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Athro Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.
Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.
Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld â phob ymgeisydd sydd ag anabledd os yw eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.
Nid yw'r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.
Noder, mae'n bosibl y bydd gofyn am gynnal cyfweliad neu asesiad ail gam.