MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Wrexham,
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Not Supplied
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Disgrifiad
Ysgol Morgan Llwyd
Pennaeth: Mr Iwan Owen-Ellis
Athro/awes Saesneg (Cyfnod Mamolaeth)
Cyflog: Prif Raddfa
16.5 awr yr wythnos
Mae Ysgol Morgan Llwyd yn awyddus i benodi athro / athrawes Saesneg dros gyfnod mamolaeth yn dechrau ar yr 28ain o Ebrill, 2025 hyd y 27ain o Fawrth, 2026. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyfrannu at ddysgu Saesneg i flynyddoedd 7-11.
Mae hon yn swydd rhan amser, tri diwrnod yr wythnos (Mawrth, Mercher a Gwener). Telir cyflog yn unol a graddfa gyflog athrawon.
Am ragor o wybodaeth gweler y pecyn gwybodaeth sydd ar gael ar wefan yr ysgol neu cysylltwch gyda Miss Rhian Owen drwy e-bost ar owenr350@hwbcymru.net neu ffoniwch 01978 315050.
I wneud cais lawrlwythwch y ffurflen gais os gwelwch yn dda a'i dychwelyd at Miss Rhian Owen, drwy e-bost erbyn hanner dydd ar y 30ain o Ionawr, 2025.
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.
DYDDIAD CAU: 12:00 y.p. ar y 30ain o Ionawr, 2025