MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: TPS + TLR 2
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 05 Ionawr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: TPS + TLR 2
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf 'hanfodol' a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais - canllaw i ymgeiswyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .Ar gyfer Ebrill 2025, swydd barhaol
A hoffech chi weithio mewn ysgol gyfeillgar a chefnogol sy'n hyrwyddo arloesedd i'r dyfodol?
Mae Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn hyrwyddo ethos o un tîm, un teulu wrth i ni i weithredu cwricwlwm i Gymru, tyfu fel ysgol 3-19 ac arloesi gyda systemau newydd i gefnogi hunanwerthuso a gwelliant, datblygiad medrau a safonau dysgwyr.
Ni yw'r unig ysgol cyfrwng Cymraeg 3-19 yn y rhanbarth a'r unig ysgol 3-19 yn sir Torfaen.
Agorodd Gwynllyw fel ysgol gyfun Gymraeg gyntaf hen sir Gwent yn 1988. Lleolir yr ysgol ar gyrion tref hanesyddol Pont-y-pŵl, ac yn gyfleus iawn i'r trefi mawrion, Caerdydd (tua hanner awr), Casnewydd (tua chwarter awr), yn ganolog iawn i draffyrdd yr M4 a'r M5 a phriffordd Pennau'r Cymoedd sy'n arwain at Ferthyr, Y Fenni a Henffordd. Rydym yn gweithio'n agos gydag ysgolion uwchradd Cymraeg eraill wrth ddatblygu ein cwricwlwm newydd ac rydym yn llwyr ymrwymedig i sicrhau hawl ddysgu proffesiynol, datblygu'r gweithlu ac arloesi.
Mae gennym dîm brwdfrydig o staff yma yng Ngwynllyw, sydd yn ymroi i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad dysgwyr. Chwiliwn am athro ymroddgar ac egnïol er mwyn parhau gyda'n datblygiadau o fewn Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyfyddau drwy addysgu ar draws yr ystod oedran uwchradd, gan gynnwys cyflwyno cyrsiau addas yn CC5 a CA5.
Wrth i ni dyfu fel ysgol bob oed rydym yn croesawu datblygiadau arloesol i'n strwythurau ysgol gyfan wrth i ni edrych tua'r dyfodol. Yn sgil hyn, cynigir ystod o gyfleodd i ddatblygu gyrfa a chymryd rhan flaenllaw yn natblygiad yr ysgol gyfan wrth i ni barhau ar ein taith datblygu.
O ran y swydd, bydd y prif gyfrifoldebau'n cynnwys:
- Paratoi ac addysgu gwersi yn y maes Celf i ddysgwyr 11-19 oed
- Monitro, tracio a gwerthuso cynnydd dysgwyr o fewn y dosbarthiadau a addysgir a chynllunio ymyraethau perthnasol i ymateb i unrhyw bryderon
- Gweithio gydag arweinwyr eraill o fewn y maes i ddatblygu'r maes dysgu a phrofiad a phlethu'r agweddau i hyn i fodloni'r hyn sy'n bwysig yn y maes a gweledigaeth gyffredinol yr ysgol
- Cyfrannu at waith datblygu medrau o fewn y maes pwnc, e.e. Cymhwysedd digidol, datrys problemau, llythrennedd, rhifedd a chreadigrwydd
- Ymrwymo i ddatblygu cyfleoedd allgyrsiol i'n dysgwyr
Disgwylir i berson sy'n ymgeisio ar gyfer y swydd fodloni'r gofynion isod:
- Meddu ar ddealltwriaeth bynciol cadarn o fewn y maes
- Meddu ar ddealltwriaeth o sicrhau'r cynnydd orau i ddysgwyr a thracio eu cynnydd yn effeithiol;
- Meddu ar sgiliau cyfathrebu da iawn yn y Gymraeg a'r Saesneg;
- Gallu gweithio fel rhan o dîm;
- Meddu ar sgiliau TGCh da iawn;
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallant gychwyn yn y swydd yma.
Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.
This is an advertisement for Head of Art at a designated Welsh Medium school. Duties will be undertaken through the medium of Welsh.
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i bob gweithiwr, cyflogedig neu ddi-dâl, rannu'r ymrwymiad hwn.