MANYLION
  • Lleoliad: Llanelli, Carmarthenshire, SA14 8RS
  • Testun: Dirprwy Bennaeth
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Dwyieithog
  • Dyddiad Cau: 05 Ebrill, 2022 11:59 y.p

This job application date has now expired.

Dirprwy Bennaeth

Ysgol Gymraeg Dewi Sant

Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gymraeg Dewi Sant yn chwilio i benodi ymarferwr ymroddgar i ymuno â’r U.D.A. er mwyn, ysbrydoli a herio ysgol gynradd flaengar a llwyddiannus sydd ar drothwy cyfnod newydd cyffrous.

Byddai’r Llywodraethwyr yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â’r canlynol:

• gweledigaeth glir am ragoriaeth addysgol ac yn angerddol ynglŷn â gwella cyflawniadau disgyblion

• profiad helaeth o arwain ar reoli newid ar lefel ysgol gyfan yn hanfodol ar gyfer y swydd;

• sgiliau cadarn o ran arwain, trefnu a chyfathrebu

• yn medru gweithio’n llwyddiannus mewn partneriaeth â’r plant, staff, llywodraethwyr, rhieni a’r gymuned

• disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus fod ag ymroddiad cadarn a brwdfrydig tuag at yr iaith Gymraeg a’i diwylliant, gan ystyried hanes, naws ac ethos yr ysgol.

Mae’r gallu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn gwbl hanfodol.

Am sgwrs anffurfiol cysylltwch Ann Clwyd Davies - 01554 750081 - admin@dewisant.ysgolccc.cymru

Bydd gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon