MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Schools,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon + Lwfans ADY
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 06 Ionawr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro\/Athrawes Adnoddau Arbenigol - Ysgol Aberconwy
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon + Lwfans ADY
Athro/Athrawes Adnoddau Arbenigol - Ysgol AberconwyAwtistiaeth ac Anawsterau Niwroddatblygiadol
O fis Ebrill 2025 (neu yn gynt os yn bosibl) bydd angen
Mae hon yn swydd llawn amser a pharhaol
Cyflog: Prif Raddfa Cyflog i Athrawon + Lwfans ADY
Dyddiad Cau: Dydd Llun, Ionawr 6ed, 2025
Yn Aberconwy rydym yn datblygu darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer disgyblion oed uwchradd sydd ag awtistiaeth ac anawsterau niwroddatblygiadol cysylltiedig. Fe wnaethom agor dau ddosbarth ag adnoddau o 8 disgybl ym mis Medi 2020, ac ehangu i gynnwys dau ddosbarth pellach ar gyfer Medi 2022. Mae'r ddarpariaeth arbenigol hon ar gyfer dysgwyr ag awtistiaeth nad oes ganddynt anabledd dysgu, ond sy'n cael anhawster sylweddol i gael mynediad i'r cwricwlwm prif ffrwd yn ei gyfanrwydd. Mae Awdurdod Lleol Conwy yn gobeithio mai hwn fydd y cam cyntaf wrth ddatblygu darpariaeth arbenigol o ansawdd uchel ar draws pob cam allweddol o addysg, gyda chylch gwaith clir i'w gynnwys mewn addysg brif ffrwd lle bynnag y bo modd ac yn galluogi disgyblion i gael mynediad at gwricwlwm llawn ac amrywiol. Mae'r ddarpariaeth yn helpu i gynorthwyo dysgwyr i ddatblygu'r sgiliau a'r hyder ar gyfer trosglwyddo y tu allan i'r ysgol ac ymlaen i gyfleoedd addysg bellach yn unol â'u dyheadau a'u diddordebau.
Rydym felly am benodi athro profiadol, brwdfrydig ac ymroddedig i lenwi'r swydd hon. Dylai fod gan ymgeiswyr brofiad a gwybodaeth helaeth o weithio gyda disgyblion oed uwchradd ag awtistiaeth ac anawsterau niwroddatblygiadol cysylltiedig, yn ddelfrydol mewn lleoliad ysgol prif ffrwd.
Yn gyfnewid rydym yn cynnig:
- Ymrwymiad cryf i ddatblygiad proffesiynol;
- Ysgol â dyheadau uchel a chyfle gwirioneddol i wneud gwahaniaeth;
- Cyfle i helpu i lywio addysgu a dysgu a'n cwricwlwm amgen;
- Tîm ymroddedig a chefnogol o staff proffesiynol a llywodraethwyr;
- Cysylltiadau cryf ag ysgolion lleol eraill ar gyfer gweithio mewn partneriaeth a chefnogaeth;
- Ysbryd cymunedol cryf;
Gweithdrefnau Diogelu
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, ac yn disgwyl i bob aelod staff a gwirfoddolwr i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gyflogwr Cyfle Cyfartal Gan gofio hyn, hoffem dynnu eich sylw at y materion canlynol:
Rydym ond yn derbyn ceisiadau a gwblhawyd ar ffurflen gais Conwy gyda llythyr eglurhaol. Os gwelwch yn dda, peidiwch â gyrru CV neu dystebau agored.
This form is also available in English