MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Schools,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: GO3 (£4,112- £4,181)
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 06 Ionawr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Swyddog Cyfathrebu a Marchnata - Ysgol Aberconwy
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyflog: GO3 (£4,112- £4,181)
Swyddog Cyfathrebu a Marchnata - Ysgol AberconwyYstod Cyflog: GO3 (£4,112- £4,181)
Mae hon yn swydd barhaol o oddeutu 7.5 awr (1 diwrnod) yr wythnos, tymor ysgol yn unig, lle rhennir y swydd gyda'r deiliad swydd presennol. Union oriau i'w cytuno â'r ymgeisydd llwyddiannus mewn cyfweliad.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Llun Ionawr 6ed 2025
Dyddiad cychwyn yn y swydd: Chwefror 2025 neu mor fuan â phosibl.
Rydym yn awyddus i apwyntio person brwdfrydig a llawn cymhelliant i ddatblygu a chynnal systemau cyfathrebu mewnol ac allanol yr ysgol. Bydd y person hwn yn gweithio'n annibynnol ac yn greadigol er mwyn:
- codi proffil yr ysgol yn y gymuned leol drwy hyrwyddo ein brand,
- cynnal ein proffil yn y cyfryngau a'r cyfryngau cymdeithasol,
- cynnal gwefan yr ysgol,
- trefnu cyhoeddi prosbectysau a dogfennau eraill
- cynnal systemau cyfathrebu mewnol, bwletinau ac arddangosfeydd.
Gweithdrefnau Diogelu
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant. Gan gofio hyn, hoffem dynnu eich sylw at y materion canlynol:
Rydym ond yn derbyn ceisiadau a gwblhawyd ar ffurflen gais Conwy gyda llythyr eglurhaol. Os gwelwch yn dda, peidiwch â gyrru CV neu dystebau agored.
This form is also available in English