MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Pay Scale Within: L15 £71,523 - L21 £82,047
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Pennaeth Gweithredol - Ysgolion Cynradd Catholig Mair Ddihalog a Teilo Sant
Cyngor Sir Benfro
Cyflog: Pay Scale Within: L15 £71,523 - L21 £82,047
Pennaeth GweithredolFfederasiwn Ysgolion Cynradd Catholig Mair Ddihalog a Theilo Sant
ISR L15 - L21 (Hoffai'r llywodraethwyr gynnig pecyn adleoli hyd at £7,000 i'r ymgeisydd llwyddiannus, i'w gytuno cyn dechrau yn y swydd.
Dyddiad dechrau: Medi 2025(neu cyn gynted â phosibl wedi hynny)
Swydd barhaol ac amser llawn
Gan weithio mewn partneriaeth ag Esgobaeth Mynyw a Chyngor Sir Penfro, mae corff llywodraethu'r ffederasiwn newydd hwn o ysgolion cynradd Catholig am benodi arweinydd rhagorol yn bennaeth gweithredol. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus barhau â'r dysgu Catholig llwyddiannus yn y ddwy ysgol a rhannu ei amser rhwng y ddau safle.
Yr ysgolion
Mae Ysgol Gynradd Gatholig Mair Ddihalog (NOR 202)wedi'i lleoli yn nhref sirol fywiog Hwlffordd ac mae ganddi "ethos hynod ofalgar a meithringar" (ESTYN Mawrth 2023). Mae Ysgol Gynradd Gatholig Teilo Sant (NOR 81)wedi'i lleoli yn nhref glan môr hardd Dinbych-y-pysgod ac mae ganddi "weledigaeth glir [...] ac yn gwerthfawrogi pob disgybl fel unigolyn" (Estyn, 2018).
Yr ymgeisydd llwyddiannus
Byddwch yn arweinydd ysbrydoledig gyda hanes sylweddol o wella ysgolion.Bydd gennych weledigaeth, hyblygrwydd, egni ac angerdd i hwyluso llwyddiant ar gyfer ein disgyblion, ein staff a chymunedau ein plwyfi. Bydd gennych yr hygrededd i ysgogi, ysbrydoli a herio eraill.
- ymrwymiad personol i addysg Gatholig ac i ddatblygiad ysbrydol y disgyblion,
- gweledigaeth glir ar gyfer rhagoriaeth addysgol ac angerdd am wella deilliannau disgyblion,
- gweledigaeth strategol, arloesol ar gyfer effeithiolrwydd, cynhwysiant a lles ysgolion; a dylanwad y rhain ar ddeilliannau disgyblion
- cyfathrebwr rhagorol sy'n gallu ymgysylltu'n effeithiol â phlant, rhieni, staff a llywodraethwyr.
- y gallu i adeiladu ar berthnasoedd presennol a datblygu rhai newydd o fewn yr ysgolion, yr esgobaeth, yr awdurdod lleol a chymunedau plwyfi ehangach,
- y gallu i adnabod cryfderau a gwendidau, gan eu defnyddio i ddatblygu potensial disgyblion a staff ymhellach.
- y gallu i ysbrydoli, ysgogi ac ennyn brwdfrydedd disgyblion a staff,
- disgwyliadau uchel i sicrhau bod disgyblion yn llawn cymhelliant ac wedi'u hysbrydoli a'u herio er mwyn iddynt gyrraedd eu potensial llawn.
Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus lofnodi contract cyflogaeth Gwasanaeth Addysg yr Eglwys Gatholig.
Cwblhewch y ffurflen gais i uwch-arweinwyr ddiweddaraf, a ddarperir gan Wasanaeth Addysg yr Eglwys Gatholig . Dychwelwch y ffurflen wedi'i chwblhau at
Damon McGarvie, Ymgynghorydd Gwella Ysgolion, mcgarvied@hwbmail.net
Byddem yn falch o dderbyn cyswllt gan bartïon â diddordeb a byddem yn croesawu ymweliadau â'n hysgolion.Gellir trefnu'r rhain drwy gysylltu â Mr P Mansfield, cadeirydd y llywodraethwyr, yn patrickmansfield@hotmail.co.uk.
Dyddiad cau: 30 Ionawr 2025
Llunio'r rhestr fer: 31 Ionawr 2025
Cyfweliadau: 12 a 13 Chwefror 2025
Fideo Addysgu Sir Benfro: Fideo - Cyngor Sir Penfro
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Diogelu
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
- Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.