MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 08 Rhagfyr, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Swyddog Anghenion Dysgu Ychwanegol - Mewnol yn Unig

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Swyddog Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar

Contract neu secondiad dros dro llawn amser

Graddfa 09 £37,035 - £39,513 y flwyddyn

Mewnol yn Unig

Oes gennych chi wybodaeth ragorol am ddatblygiad plant?
Ydych chi'n angerddol am gefnogi plant ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol?
Ydych chi'n gallu meithrin perthnasoedd gwaith da gyda rhieni, ymarferwyr a phlant ifanc?
Oes gennych chi sgiliau llythrennedd rhagorol?
Ydych chi'n ddigon hyblyg i weithio mewn amgylchedd prysur ar hyd a lled bwrdeistref Wrecsam?
I ddechrau bydd y swydd yn secondiad, i gefnogi gweithredu'r Ddeddf ADY yn Wrecsam.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio i gefnogi tîm Cynhwysiant Wrecsam ac yn cydlynu darpariaeth ddysgu ychwanegol i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion cymhleth, gan ddod a theuluoedd, gweithwyr iechyd proffesiynol, athrawon ac arweinwyr ysgolion ynghyd.
Mae'r swydd angen ymarferydd profiadol a brwdfrydig sydd â gwybodaeth a dealltwriaeth wych o ddatblygiad plentyn. Bydd yn gweithio fel aelod gwerthfawr o Dîm Cynhwysiant Wrecsam ac yn gallu rhannu sgiliau a hyfforddi eraill i ddarparu ymyrraeth o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus angen dangos dealltwriaeth dda o ddatblygiadau presennol mewn addysg, bydd ganddynt agwedd hyblyg a byddant yn gallu cefnogi plant ac ymarferwyr mewn lleoliadau yn sir Wrecsam. Byddant yn gallu defnyddio eu hymarfer da eu hunain wrth arwain adolygiadau yn canolbwyntio ar yr unigolyn, ysgrifennu deilliannau priodol i blant sydd ag oedi sylweddol a chyfrannu tuag at Gynlluniau Datblygu Unigol.
Mae sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol da, ymdeimlad cryf o weithio mewn tîm a pharodrwydd i gyfrannu at ddarparu hyfforddiant yn hanfodol. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau trefnu a chydlynu gwych a bydd yn gallu llunio dogfennaeth statudol gan gynnwys Cynlluniau Datblygu Unigol ac adroddiadau proffesiynol. Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ond nid yw'n hanfodol.
Dylech gael caniatâd eich Pennaeth os ydych yn ymgeisio am secondiad.
I ddechrau cyn gynted ag y gellir rhyddhau'r ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhywedd, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran. r Cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos y gallant weithio yn y Gymraeg a'r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn y Saesneg.
I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â
Esther Evans
Esther.evans@wrexham.gov.uk