MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £27,269 - £30,060 Pro Rata | Grade 5
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 05 Rhagfyr, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Addysgu (Gweithiwr Cymorth) - Uned Cyfeirio Disgyblion

Torfaen Local Authority

Cyflog: £27,269 - £30,060 Pro Rata | Grade 5

Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf 'hanfodol' a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais - canllaw i ymgeiswyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .

Agorwyd UCD Torfaen ym mis Mehefin 2009. Mae'n Uned sy'n cynnig addysg i blant a phobl ifanc sy'n wynebu anawsterau cymdeithasol, emosiynol a/neu ymddygiadol, y rheiny sydd wedi cael eu gwahardd yn barhaol neu sy'n disgwyl symudiad wedi'i rheoli, neu'r rheiny y mae eu pryderon neu eu hanghenion meddygol yn eu hatal rhag mynd i'r ysgol.

Mae cyfle cyffrous wedi codi yn yr UCD i benodi cynorthwyydd addysgu L3 sy'n ddeinamig ac ysbrydoledig. Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn wydn, yn greadigol ac yn hyblyg, gyda'r awydd i ddod yn aelod allweddol o dîm yr ysgol. Bydd y rôl yn cynnwys gweithio dan arweiniad y staff addysgu ac aelodau o Dîm Arweinwyr yr Ysgol er mwyn cefnogi'r gwaith o gyflwyno'r cwricwlwm yng Nghyfnod Allweddol 3 a 4.

Byddwch yn gweithio dan arweiniad, i gefnogi'r dasg o fynd i'r afael ag anghenion myfyrwyr sydd angen cymorth penodol i oresgyn rhwystrau i ddysgu. Byddwch yn cefnogi unigolion a grwpiau o fyfyrwyr i'w galluogi i ddysgu, a chynorthwyo'r athro i reoli myfyrwyr yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt. O bryd i'w gilydd byddwch yn goruchwylio dosbarthiadau cyfan yn ystod absenoldeb yr athro yn y tymor byr. Gall gwaith allgymorth a chysylltu ag ysgolion prif ffrwd i ymweld â nhw, hefyd fod yn rhan o'r rôl hon.

Bydd gennych gymhwyster Cynorthwyydd Addysg NVQ Lefel 3, neu gymhwyster cyfatebol. Mae amynedd, dealltwriaeth, agwedd ofalgar a'r gallu i gefnogi a datblygu perthnasoedd cadarnhaol yn hanfodol yn y rôl hon.

Byddwch yn un o'r tîm, sy'n gallu mynd ati i drefnu a chynllunio eich amser eich hun. Os ydych yn cael eich ysgogi gan y ffordd y mae plant yn dysgu, ac yn gallu ysbrydoli ein plant, edrychwn ymlaen at glywed gennych.

Gan fod hon yn swydd yn ystod y tymor, rhaid cymryd gwyliau pan fydd yr ysgol ar gau. Bydd y broses benodi yn cynnwys cyfweliad gydag aelodau o dîm arweinwyr yr ysgol a detholiad o Aelodau'r Pwyllgor Rheoli.

Os oes gennych y brwdfrydedd a'r awydd i weithio mewn amgylchedd blaengar ac arloesol, byddai UCD Torfaen yn croesawu eich cais. I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Sarah Pugh, Pennaeth, neu Viv Hunt, Rheolwr Cynhwysiant, ar 01495 742859.

Rhaid bod ymgeiswyr wedi cofrestru gyda'r CGA - Cyngor y Gweithlu Addysg

Mae'r swydd hon wedi'i heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i bob gweithiwr, cyflogedig neu ddi-dâl, rannu'r ymrwymiad hwn.

Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.

Dewis Rhestr Fer: Dydd Gwener 6 Rhagfyr
Cyfweliadau: Wythnos yn cychwyn 9 Rhagfyr

Wrth wneud cais, defnyddiwch adran Datganiad Ategol y ffurflen gais i ddangos sut yr ydych yn bodloni'r meini prawf ar gyfer y swydd.