MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Prif raddfa/Graddfa Gyflog Uwch
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 05 Ionawr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/Athrawes dosbarth (Ysgol Golwg Pen y Fan)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Prif raddfa/Graddfa Gyflog Uwch

Athro/Athrawes dosbarth (Ysgol Golwg Pen y Fan)
Swydd-ddisgrifiad
Mae'r dyddiad cau ar gyfer y rôl wedi cael ei ymestyn, dyma'r dyddiadau newydd -
Dyddiad cau: 05/01/2025
Dyddiad creu rhestr fer: W/C 06/01/2025
Cyfweliadau: 13/01/2025

Ei angen/ei hangen ar gyfer 30.04.2025
Mae corff llywodraethu'r ysgol gynradd newydd yn Aberhonddu, Ysgol Golwg Pen y Fan, am benodi athro/athrawes dosbarth eithriadol ac ysbrydoledig i ymuno â'r tîm. Rydym yn chwilio am athro/athrawes dosbarth brwdfrydig i addysgu dosbarth wedi'i grwpio'n fertigol o ddisgyblion Cyfnod Allweddol 2 ar Gampws Iau Mount Street.
Bydd Cam 1 yn gweld y tair ysgol bresennol, Ysgol Gynradd Cradoc, Meithrinfa Mount Street ac Ysgol Babanod ac Ysgol Iau Mount Street, yn uno i ffurfio un ysgol ar draws tri champws o
fis Medi 2024.
Bydd Cam 2 yn cynnwys adeiladu ysgol newydd, lle bydd y tair ysgol yn dod o dan yr un to.
Bydd yr uwch dîm rheoli, staff yr ysgol, ar y cyd â'r pennaeth a'r corff llywodraethu dros dro, yn chwarae rhan allweddol yng nghynllun a threfn newydd yr ysgol. Bwriedir i hyn agor ym mis
Medi 2026.
Bydd yr uwch dîm rheoli yn gweithio gyda'r holl staff ar draws y tri safle i hyrwyddo cymuned gynhwysol sy'n ymdrechu i hyrwyddo llwyddiant ein holl ddisgyblion. Bydd yr uwch dîm rheoli
yn gweithio i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth o fewn yr ysgol a'r gymuned ehangach, gan fod ein disgyblion yn dod o ystod eang o gefndiroedd.
Gwella cyfleoedd bywyd pobl ifanc yw'r gwerth craidd a fydd yn ysgogi pob penderfyniad yn yr ysgol.
Bydd eich sgiliau, profiadau a rhinweddau personol yn dod yn rhan annatod o ddatblygiad yr ysgol newydd yn y dyfodol. Mae hwn yn gyfnod hanfodol o newid i'r tair ysgol, a dymunwn bob
llwyddiant i chi pe baech yn penderfynu ymgeisio am y swydd hon. Mae gennym dîm ymroddedig o staff a Llywodraethwyr.
Croesewir trafodaethau neu ymweliadau anffurfiol drwy apwyntiad ymlaen llaw gyda'r
Pennaeth, Mrs Sarah Court,
Ffôn: 01874 622262
E-bost: head@golwgpenyfan.powys.sch.uk
Am ffurflenni cais a manylion pellach ffoniwch 01597 826409; neu e-bostiwch: recruitment@powys.gov.uk: neu ymgeisio ar-lein yn www.powys.gov.uk.
Mae angen Gwiriad Manylach y DBS i'r swydd hon.
Am ragor o wybodaeth neu i drafod y rôl, gallwch gysylltu â:
• Sarah Court, Pennaeth, Ysgol Golwg Pen y Fan
head@golwgpenyfan.powys.sch.uk
• Jess Williams, Cadeirydd y corff llywodraethu drwy e-bost
(williamsj2571@golwgpenyfan.powys.sch.uk)