MANYLION
  • Lleoliad: Monmouth, Monmouthshire, NP25 3YT
  • Testun: Dirprwy Bennaeth
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Misol
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 06 Rhagfyr, 2024 12:00 y.p

This job application date has now expired.

Dirprwy Bennaeth

Ysgol Gyfun Trefynwy
Dirprwy Bennaeth
Cytundeb llawn amser, parhaol, yn dechrau ddydd Llun 28 Ebrill 2025

Annwyl Ddarpar Ymgeisydd,

Diolch i chi am eich diddordeb yn y swydd hon. Gobeithiaf y bydd y pecyn recriwtio hwn yn rhoi syniad da i chi o’n hysgol, ein gwerthoedd a’n huchelgais ar gyfer y dyfodol. Rydym yn ysgol uwchradd gyfun, gyda mwy o geisiadau nag o leoedd ar gael, o dros 1,700 o fyfyrwyr a 200 o staff, yn cynnwys Chweched Dosbarth eithriadol o boblogaidd a llwyddiannus o tua 370 o fyfyrwyr a Chanolfan Adnoddau Arbenigol sy’n arwain y sector a dyfodd i dros 60 o fyfyrwyr. Rydym wedi ein lleoli yng nghanol Trefynwy ac yn gwasanaethu’r gymuned leol yn ogystal ag ardaloedd eraill cyfagos yng Nghymru a hefyd yn Lloegr. Mae gennym fudd adeilad ysgol newydd gwych a gafodd ei gwblhau yn ddiweddar dan y rhaglen Ysgolion 21ain Ganrif. Mae’n gyfleuster modern rhagorol sydd ag addysg yn greiddiol iddo.

Mae gennym ffordd neilltuol o wneud pethau, ac yn falch o hynny. Er enghraifft, rydym yn gynhwysol a hefyd yn uchelgeisiol dros ein holl fyfyrwyr, beth bynnag fo eu cyd-destun, ac yn credu fod cysondeb a threfn yn ffordd rymus o gyflawni hyn. Rydym yn rhedeg system ganoledig o ymddygiad a llesiant, sy’n rhoi mwy o amser a gofod i athrawon mewn ystafelloedd dosbarth i ganolbwyntio ar addysgu a dysgu. Rydym yn credu’n gryf yng nghyfrifoldeb ar y cyd yr holl staff i gynnal disgwyliadau uchel – yr hyn yr ydym yn ei ganiatáu, yn ei hyrwyddo.

Cafodd ein cymuned ysgol ei seilio ar werthoedd a gaiff eu rhannu, onestrwydd a pharch at ein gilydd. Caiff ein diwylliant o welliant parhaus ei yrru gan dryloywder, dialog agored rhwng staff a llais rheolaidd i fyfyrwyr a rhieni. Rydym yn ysgol hapus a llwyddiannus ac yn un sy’n cydnabod natur drawsnewidiol addysg ar gyfer ein cymuned leol a chymdeithas yn ehangach. Rydym yn hollol benderfynol i fod yn gyfartal â’r ysgolion gorau oll yn y wlad, ac mae’r swydd hon yn rhan sylfaenol o’r uchelgais hwnnw.

I gael mwy o wybodaeth amdanom cysylltwch â ni neu ymweld â’n gwefan. Os hoffech sgwrs gyfrinachol gyda fi am y swydd, neu os hoffech ymweld â ni, mae croeso i chi gysylltu â Sarah Bradley i drefnu hyn yn sarah.bradley@monmouth.schoolsedu.org.uk neu drwy 01600 775173. Rwy’n eich annog i ddod i gysylltiad.

Edrychwn ymlaen at dderbyn ceisiadau gan ymgeiswyr y mae eu nodweddion a gwerthoedd personol yn adlewyrchu’r rhai yn y fanyleb person, ac sydd â’u profiadau hefyd yn eu rhoi mewn sefyllfa gref i gyflawni’r heriau a nodir yn y disgrifiad swydd. Diolch i chi unwaith eto am eich diddordeb.

Yn gywir iawn,

Hugo Hutchison
Pennaeth


Y Swydd

Mae’r swydd yn rhan bwysig tu hwnt o osod cyfeiriad strategol a gweithrediad beunyddiol yr Ysgol, yn cynnwys dirprwyo dros y Pennaeth pan fo angen. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio’n agos gyda’r Pennaeth a gweddill yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth, sydd ar hyn o bryd yn cynnwys un Dirprwy Bennaeth, tri Pennaeth Cynorthwyol ac un Pennaeth Cynorthwyol Cyswllt (secondiad). Mae’r swydd newydd yn ychwanegol at y Dirprwy Bennaeth cyfredol, nid i gymryd lle’r deiliad swydd cyfredol (sy’n arwain ar staffio, safonau a’r cwricwlwm).

Prif gyfrifoldeb y swydd hon yw arwain llesiant, trosolwg ar systemau ymddygiad a rheoli gweithrediad dyddiol yr Ysgol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rheolwr llinell i arweinwyr canol ac eraill fel sydd angen. Daw’r ymgeisydd llwyddiannus yn Berson Diogelu Dynodedig ar gyfer yr ysgol (mae gennym nifer o Bersonau Diogelu Dynodedig yn yr Ysgol, fel mater o bolisi). Bydd portffolio llawn y cyfrifoldebau yn dibynnu ar brofiad yr ymgeisydd llwyddiannus.

Ein Cymuned

Mae ymrwymiad dwfn i lais myfyrwyr yn rhedeg drwy Ysgol Gyfun Trefynwy. Yn ogystal â Chyngor Ysgol etholedig, caiff Tîm Arweinyddiaeth Myfyrwyr ei benodi bob blwyddyn gan y tîm myfyrwyr blaenorol. Mae’r tîm hwn yn gweithio’n agos gyda grŵp o swyddogion ysgol ar brosiectau o fewn yr ysgol ac yn y gymuned leol. Maent hefyd yn cydlynu gydag ysgolion lleol eraill ar ddigwyddiadau mawr tebyg i Monmouth’s Got Talent.

Mae ein teuluoedd a’r gymuned leol yn gefnogol a chroesawgar tu hwnt. Mae Cyfeillion Ysgol Gyfun Trefynwy yn cefnogi drwy godi arian a gweithgareddau eraill; mae ein hadeilad ysgol newydd gwych yn hyb cymunedol yn ogystal ag ysgol, gan gynnal cyngherddau, dramâu, digwyddiadau diwylliannol a gweithgareddau eraill. Rydym yn cydffinio â Chanolfan Hamdden Trefynwy, sydd hefyd yn rhoi cyfleusterau chwaraeon o’r radd uchaf ar gyfer ein myfyrwyr a staff.

Mae ein Corff Llywodraethu yn cynnwys aelodau sydd ag ystod eang o brofiad mewn addysg, masnach, y gyfraith a sectorau eraill. Mae llawer ohonynt hefyd yn rhieni myfyrwyr presennol neu gyn-fyfyrwyr, ac mae rhai ohonynt hefyd yn gyn-fyfyrwyr eu hunain.

Mae’n fraint i ni weithio a byw mewn rhan hardd iawn o’r byd. Mae Trefynwy wedi ei lleoli ar yr Afon Gwy, llinyn canolog Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy. Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog 10 milltir i ffwrdd. Mae’r ysgol hefyd mewn lleoliad cyfleus iawn ar gyfer staff sy’n dewis byw mewn ardaloedd tebyg i Gaerdydd neu Henffordd.


JOB REQUIREMENTS
Os ydych angen mwy o wybodaeth am ein hysgol, ewch i’n gwefan neu gysylltu â ni ar mon.recruitment@monmouth.schoolsedu.org.uk neu ar 01600 775177 os gwelwch yn dda.

Os hoffech drafodaeth gyfrinachol gyda’n Pennaeth am y swydd hon cyn gwneud cais, neu i drefnu ymweliad, cysylltwch â Sarah Bradley i drefnu hyn ar Sarah.Bradley@monmouth.schoolsedu.org.uk neu ar 01600 775173 os gwelwch yn dda.

Dyddiad Cau: Dydd Gwener 6 Rhagfyr 2024 ar ganol-dydd.
Dyddiad Cyfweliadau: Dydd Llun 16 Rhagfyr 2024.

I wneud cais, mae angen i ymgeiswyr lenwi a chyflwyno ffurflen gais, y gellir ei lawrlwytho drwy eTeach. Nid ydym yn derbyn CVs.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae’n rhaid cyflwyno ceisiadau drwy e-bost i mon.recruitment@monmouth.schoolsedu.org.uk erbyn y dyddiad a’r amser cau.

Cafodd penodiad i’r swydd hon ei eithrio o’r Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr ac mae’n amodol ar Wiriad Datgeliad Manwl.

Mae’r Corff Llywodraethu yn ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl i bawb a gyflogir ganddo a gwirfoddolwyr i rannu’r ymroddiad yma.

Mae Cyngor Sir Fynwy yn gyflogwr cyfle cyfartal ac mae’n croesawu ceisiadau gan bob adran o’r gymuned.