MANYLION
- Lleoliad: Pencoed,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Graddfa Gyflog 1 - £12 yr awr Contract Achlysurol (Mae’r oriau gweithio ar sail ad-hoc)
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Cyflog: Graddfa Gyflog 1 - £12 yr awr Contract Achlysurol (Mae’r oriau gweithio ar sail ad-hoc)
Cynorthwyydd Amaethyddiaeth Achlysurol(Myfyrwyr yn Unig)
Graddfa Gyflog 1 - £12 yr awr
Contract Achlysurol
(Mae'r oriau gweithio ar sail ad-hoc)
Sylwch - mae'r cyfle hwn wedi'i anelu at y corff myfyrwyr presennol yng Ngholeg Penybont
Byddwch yn cynorthwyo gyda thymor geni ŵyn a chynorthwyo gydag iechyd, lles, ac ewthanasia'r anifeiliaid yn ôl yr angen. Bydd gofyn i chi gynorthwyo gyda chynnal a chadw'r tir a'r ardaloedd cysylltiedig, gan gynnwys: rheoli glaswelltir a ffensys, cau tir dan do ac awyr agored, cyfleusterau cartrefu.
Bydd gennych wybodaeth dda am amaethyddiaeth gyffredinol a chynhyrchu defaid a byddwch yn hunan-gymhellol gyda'r gallu i weithio heb oruchwyliaeth ac yn drefnus.
I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch becyn gwybodaeth y swydd .
Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae'r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig / boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion.
Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.
Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.
Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.
Nid yw'r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.
Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.