MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cogydd Mewn Gofal Symudol

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

COGYDD MEWN GOFAL SYMUDOL

G04 £23,500 - £23,893 pro rata

£12.18 - £12.38 yr awr

YN YSTOD Y TYMOR YN UNIG

25 awr yr wythnos

38 wythnos y flwyddyn

Mae ar wasanaeth arlwyo prydau ysgol Wrecsam angen cogydd cymwys i weithio pan fo staff arferol yn absennol.

Yr oriau gweithio fydd 25 awr yr wythnos. Pan fyddwch yn gweithio yn lle aelodau o staff sy'n sâl bydd eich oriau yn amrywio yn unol ag oriau targed y safle.

Mae trwydded yrru lawn, car ac yswiriant car ar gyfer defnydd busnes yn hanfodol. Telir costau teithio o'r gegin ganolog i'r ysgol.

Bydd y prif ddyletswyddau yn cynnwys:-

1. Rheoli'r gwasanaeth o fewn y targedau a osodwyd ar gyfer costau llafur a

bwyd.

2. Dyletswyddau coginio medrus a dealltwriaeth o arferion coginio iach.

3. Goruchwylio gweithwyr eraill, gan gynnwys dyrannu dyletswyddau, rotas

gwaith a hyfforddiant.

4. Gweithredu system weinyddu gyfrifiadurol.

5. Goruchwylio gwasanaeth bwyd, faint o fwyd a chyflwyniad bwyd.

6. Dyletswyddau clerigol cysylltiedig.

7. Deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch

8. Hyrwyddo gwasanaeth bwyd i gwsmeriaid.

9. Unrhyw ddyletswydd sy'n gymesur â natur a graddfa'r swydd.

Cewch lenwi ffurflen gais ar-lein neu ofyn am becyn cais oddi wrth: Susan Thomas, Adain Gwasanaethau Cefnogol, Adran Tai a'r Economi, Ffordd Rhuthun, Wrecsam. LL13 7TU -Rhif ffôn: 01978 315647.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon.

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.