MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 11 Tachwedd, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Gweithiwr Glanhau x 2

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

YSGOL UWCHRADD RHOSNESNI
Lôn Rhosnesni
Wrecsam LL13 9ET
Pennaeth: Mr A Brant BSc (Anrh) CPCP
Ffon: 01978 340840

Gweithiwr Glanhau x 2
G02 £11.59 yr awr
15 awr yr wythnos:
3.30 pm - 6.30pm Dydd Llun - Dydd Gwener

12.5 awr yr wythnos:

06.00am - 08.30am

Dydd Llun - Dydd Gwener

41 wythnos y flwyddyn
AMSER TYMOR YN UNIG GYDA 2 WYTHNOS O WAITH GWYLIAU
Parhaol

Rydym yn awyddus i benodi gweithredwyr glanhau effeithlon ac effeithiol i weithio yn ein Tîm Safle sefydledig yn Ysgol Uwchradd Rhosnesni. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm o 12 aelod o staff cymorth safle a bydd yn gyfrifol am lanhau ardal ddynodedig o'r ysgol a allai gynnwys; ystafelloedd newid, cyfleusterau chwaraeon, coridorau, ardaloedd cyffredin (gan gynnwys grisiau), toiledau, ystafelloedd dosbarth, ystafelloedd dosbarth arbenigol a mannau awyr agored a bydd yn darparu swyddogaeth lanhau o safon uchel, a chefnogaeth i Oruchwyliwr y Safle. Yn ddelfrydol, bydd gennych wybodaeth am Iechyd a Diogelwch yn y gweithle neu barodrwydd i ddysgu o hyfforddiant ar y safle.
Rydym yn chwilio am unigolion cymhellol sy'n gweithio'n dda fel rhan o dîm ac sydd â'r gallu i weithio ar eu pen eu hunain, ar eu liwt eu hunain. Nid yw profiad mewn swydd lanhau yn hanfodol.
Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol:
Ysgol Uwchradd Rhosnesni, Lôn Rhosnesni, Wrecsam LL13 9ET
Dylid dychwelyd ceisiadau wedi'u cwblhau yn uniongyrchol i'r Rheolwr Busnes gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod:
Suzanne.blackshaw@rhosnesni-high.wrexham.sch.uk
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon.
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
DYDDIAD CAU: Dydd Llun 11 Tachwedd 2024