MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 13 Hydref, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cymhorthydd Addysgu Lefel 4 (Ymddygiad ac Arweiniad)

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Parhaol
30 awr yr wythnos
Yn ystod y tymor yn unig 39 wythnos
G06 - £18,344 - £19,303 y flwyddyn

Mae hwn yn gyfle cyffrous i Gynorthwyydd Cymorth Dysgu lefel 4 profiadol ac angerddol ymuno â'r tîm Cynhwysiant ac ADY. Rydym yn chwilio am rywun sy'n angerddol am gefnogi pobl ifanc agored i niwed ag ystod o anghenion gan gynnwys: ADY, trawma a/neu bryder. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio yn Noddfa ac yn gweithio gyda disgyblion uwchradd sydd ar hyn o bryd yn AHYYY (EOTAS) i greu a chefnogi pecynnau dysgu pwrpasol sy'n cwrdd ag anghenion unigol pobl ifanc.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.