MANYLION
- Lleoliad: Ysgol Tryfan, Bangor,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £71,195 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 07 Hydref, 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Cyflog: £71,195 y flwyddyn
ManylionHysbyseb Swydd
Yn eisiau: ar gyfer 1 Ionawr, 2025
DIRPRWY BENNAETH
Swydd Barhaol - Llawn Amser
Mae'r corff llywodraethol yn chwilio am arweinydd arloesol, cynhwysol a theg sydd â'r gallu a'r dycnwch i gydarwain yn gadarn ac i ysbrydoli.
Cyflog: L13 - L17 ar y Raddfa Arweinyddiaeth (£64,450- £71,195) yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae'r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth Dr. Geraint Owen Jones.
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Miss Bethan Thomas, Rheolwr Busnes a Chyllid, Ysgol Tryfan, Lôn Powys, Bangor, Gwynedd, LL57 2TU
(Rhif Ffôn: 01248 352633, e-bost: sg@tryfan.ysgoliongwynedd.cymru )
Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU - 10.00yb, DYDD LLUN, HYDREF 7fed, 2024
Rhagwelir cynnal y cyfweliadau yn ystod yr wythnos yn cychwyn 14/10/24.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.
Pecyn Swydd.pdf
Manylion Person
.
Swydd Ddisgrifiad
.
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi