MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Cyflog athrawon dosbarth
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 01 Hydref, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes Saesneg (Cyfnod Mamolaeth) Ysgol Bro Hyddgen

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Cyflog athrawon dosbarth

Athro/Athrawes Saesneg (Cyfnod Mamolaeth) Ysgol Bro Hyddgen
Swydd-ddisgrifiad
YSGOL BRO HYDDGEN
MACHYNLLETH
POWYS. SY20 8DR
ATHRO/ATHRAWES Saesneg
I GYCHWYN - Mawrth 2025
Dros gyfnod mamolaeth
Mae Llywodraethwyr Ysgol Bro Hyddgen yn awyddus i benodi Athro/Athrawes Saesneg dros gyfnod Mamolaeth o fis Mawrth 2025. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus addysgu Saesneg i ddisgyblion ledled yr ysgol hyd at lefel TGAU a Safon Uwch, yn ogystal â chyfrannu at weithgareddau allgyrsiol yr Adran.
Mae ein disgyblion yn haeddu athrawon ymroddedig ac effeithiol a fydd yn rhoi o'u gorau, gan gefnogi datblygiad academaidd a phersonol. Rydym am benodi Athro Saesneg angerddol gyda'r sgiliau a'r profiad i gyflawni canlyniadau llwyddiannus yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4. Mae ein hadran Saesneg yn
gweithio'n galed i gyflwyno gwersi creadigol a deniadol sy'n herio ac yn cefnogi ein disgyblion i gyflawni eu potensial. Rydym yn edrych ymlaen at roi cyfle i athro Saesneg angerddol ymuno â'r adran a'r ysgol dros y cyfnod mamolaeth hwn. Mae'r swydd hon yn addas ar gyfer ANG ac athrawon profiadol. 4 diwrnod yr wythnos (26 awr).
Os hoffech drafod unrhyw agwedd o'r swydd neu ffurflen gais, cysylltwch â'r
Pennaeth, Mr Dafydd Jones
Ffôn: (01654) 704200
Dyddiad Cau: 01/10/2024