MANYLION
- Lleoliad: Colwyn Bay,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Prif Raddfa\/Graddfa Uchaf Cyflog i Athrawon + CAD1b
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 04 Hydref, 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Cyflog: Prif Raddfa\/Graddfa Uchaf Cyflog i Athrawon + CAD1b
YSGOL ABERCONWYPENNAETH ADRAN SAESNEG
O fis Ionawr 2025 bydd angen: Pennaeth Adran Saesneg
Mae hon yn swydd barhaol, amser llawn
Cyflog: Prif Raddfa/Graddfa Uchaf Cyflog i Athrawon + CAD1b
Dyddiad Cau: Dydd Gwener 4ydd Hydref 2024
Rydym yn awyddus i benodi Athro Saesneg brwdfrydig a llawn cymhelliant i arwain adran sydd eisoes yn un effeithiol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn athro rhagorol a fydd yn arwain yr adran trwy esiampl i gyflawni eu targedau uchelgeisiol. Rydym yn annog ceisiadau gan athrawon gydag unrhyw brofiad sy'n teimlo y gallant ychwanegu gwerth i gyfadran sydd eisoes yn effeithiol iawn a ffynnu mewn amgylchedd dynamig a brwdfrydig.
Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus:
- Fod yn athro Saesneg gydag ymarfer dosbarth sy'n 'Dda' neu'Rhagorol' yn gyson
- Fod yn eiriolwr brwd dros y pwnc sy'n cyfrannu'n effeithiol i welliannau adrannol ac ysgol gyfan
- Allu addysgu ar draws yr ystod oedran a'r ystod gallu lawn rhwng 11-18 oed.
- Ddangos gallu ac awydd i wneud cyfraniad llawn i fywyd yr ysgol
- Fod â disgwyliadau uchel ohonynt hwy eu hunain ac eraill
- Fod yn gyfathrebwr da gyda sgiliau rhyngbersonol rhagorol
- Fod yn hyblyg ac yn aelod da o dîm
Yn gyfnewid rydym yn cynnig:
- Ymrwymiad cryf i ddatblygiad proffesiynol;
- Ysgol â dyheadau uchel a chyfle gwirioneddol i wneud gwahaniaeth;
- Cyfle i helpu i lywio addysgu a dysgu a'n cwricwlwm amgen;
- Tîm ymroddedig a chefnogol o staff proffesiynol a llywodraethwyr;
- Cysylltiadau cryf ag ysgolion lleol eraill ar gyfer gweithio mewn partneriaeth a chefnogaeth;
- Ysbryd cymunedol cryf;
- Lle bywiog a diddorol i weithio ynddo.
This form is also available in English