MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 03 Tachwedd, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro Plant Byddar

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Gwasanaethau Addysg - Athro Plant Byddar

Lwfans AAA a Phrif Raddfa Gyflog (MPS)

Parhaol - Rhan amser (3 diwrnod yr wythnos - ymrwymiad addysgu 2 ddiwrnod yn Ysgol Uwchradd Rhosnesni, rôl strategol 1 diwrnod)

22.2 awr yr wythnos (0.6fte)

Mae angen athro cymwys i addysgu a chydlynu darpariaeth addysgol yn effeithiol i ddisgyblion byddar yn Ysgol Uwchradd Rhosnesni. Mae'r swydd yn cynnwys cyfrifoldeb strategol dros hyfforddiant a phontio yn yr awdurdod lleol i ddisgyblion byddar a bydd angen cael cyswllt agos â Gwasanaeth Synhwyrau Gogledd Ddwyrain Cymru, staff prif ffrwd, rhieni ac ystod o weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol fel bo'n briodol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio yn Ysgol Uwchradd Rhosnesni a Noddfa, canolfan ymyrraeth yr awdurdod lleol yng Ngwersyllt.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Lisa Rowlands, Rheolwr ADY Lisa.Rowlands@wrexham.gov.uk

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn Ddymunol a rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod â thrwydded yrru lawn.

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg.