MANYLION
- Lleoliad: Carmarthen, SA32 8NJ
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £24,886 / blwyddyn
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Cyflog: £24,886 / blwyddyn
Gweithiwr Fferm CyffredinolApplication Deadline: 19 September 2024
Department: Farm Services
Employment Type: Parhaol
Location: Campws Y Gelli Aur
Reporting To: Rheolwr y Fferm
Compensation: £24,886 / blwyddyn
DescriptionMae'r Bwrdd Corfforaethol wedi ymrwymo i benodi staff a fydd yn dangos menter a brwdfrydedd ac a fydd yn ychwanegu ymhellach at enw da'r Coleg trwy ymrwymiad i weithio fel aelod o dîm a chynhyrchu gwaith o ansawdd uchel. Mae'r swydd yn darparu cyfle cyffrous a llawn her i berson rhagweithiol a dyfeisgar.
Mae gweithrediad ffermio masnachol yng Ngholeg Sir Gâr, Sir Gaerfyrddin, wedi'i ganolbwyntio'n bennaf (ond nid yn unig) ar Fferm Y Gelli Aur. Bydd Rheolwr y Fuches yn gyfrifol am reolaeth o ddydd i ddydd y fuches sy'n cynrychioli cnewyllyn menter fferm fasnachol Canolfan Ymchwil Amaethyddol y Gelli Aur. Mae'n hanfodol felly bod y Gweithiwr Fferm yn aelod annatod o dîm llwyddiannus sy'n cynnwys Rheolwr y Fferm a staff eraill y fferm. Wedi'i sefydlu ym 1997, mae Canolfan Arallgyfeirio Amaethyddol a Thechnoleg y Gelli Aur yn hanfodol wrth gefnogi y Gelli Aur fel "Canolfan Rhagoriaeth" mewn astudiaethau ar dir. Mae datblygiad Canolfan y Gelli Aur wedi sicrhau bod cyfleusterau'r fferm yn cynrychioli amodau gwaith rhagorol ac yn adlewyrchu'r sefyllfa “o'r radd flaenaf” bresennol. Mae'n hanfodol bod y Gweithiwr Fferm yn gallu gweithio ar y lefel dechnegol uchaf tra'n cyfrannu at yr hyfforddiant a'r deilliannau lledaenu gwybodaeth sy'n gysylltiedig â'r Ganolfan.
Er bod gan y Fferm ei thargedau a'i dangosyddion perfformiad clir ei hun, mae cyswllt annatod rhwng ei llwyddiant â llwyddiant y Gyfadran Astudiaethau ar Dir a chyflwyniad effeithiol rhaglenni hyfforddiant a datblygiad mewn Amaethyddiaeth.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Gynorthwyo i reoli uned y Fuches Laeth o ddydd i ddydd gan sicrhau bod yr holl stoc yn cael gofal o'r safon uchaf o ran hwsmonaeth a lles. Cyflawni amrywiaeth o dasgau sy'n ymwneud â'r drefn odro ddyddiol a fydd yn amrywio yn ystod y tymor ac a fydd yn cynnwys:-
-Neilltuo ardaloedd pori cywir yn ystod y tymor pori.
-Bwydo gwartheg i safon uchel yn ystod misoedd y gaeaf a gweithredu strategaeth fwydo y cytunwyd arni.
-Glanhau a rhoi deunydd gwely i'r fuches yn ystod y cyfnod dan do a sicrhau amgylchedd da a fydd yn cyfrannu tuag at safonau hylendid llaeth rhagorol
-Cynorthwyo gyda rheoli stoc ifanc yn ystod y tymhorau lloia a fydd yn cynnwys ystod o sgiliau magu lloi a hwsmonaeth.
- Gwneud gwaith cynnal a chadw cyffredinol ar y fferm a sicrhau bod holl gyfarpar y Fferm yn gweithio'n iawn;
- Cadw amrywiaeth o gofnodion er mwyn monitro perfformiad ystod o adnoddau fferm;
- Ymgymryd ag amrywiaeth o waith tractor ar Fferm y Gelli Aur ac unrhyw dir arall sy'n cael ei reoli gan Goleg Sir Gâr;
- Cyfrannu at ddatblygu a gweithredu'r ymchwiliadau fferm a thrafod y canlyniadau gyda myfyrwyr, gwesteion a grwpiau sy'n ymweld;
- Rheoli'r gwaith o storio a defnyddio elifion a sicrhau cydymffurfiad o fewn y Cod Arferion Da ar gyfer Amaethyddiaeth;
- Sicrhau bod gweithdrefnau gweithredol yn adlewyrchu arferion da ac yn parchu mesurau iechyd a diogelwch hanfodol;
- Sicrhau bod y fferm bob amser yn enghraifft neilltuol i ymwelwyr. Rhaid i bob agwedd ar ymddangosiad yr Uned fod yn barhaol drefnus;
- Cydweithredu a chysylltu â phartneriaid prosiect;
- Rheoli ei amser a threfn gwaith er mwyn cyflawni'r targedau perfformio o fewn lwfans amser blynyddol a gytunwyd;
- Bod â gwybodaeth gyfoes o arfer ffermio cyfredol, mynychu cyrsiau perthnasol a rhoi adborth i aelodau staff eraill;
- Cyfathrebu'n rheolaidd â rheolwyr y fferm a chymryd rhan yn yr holl drafodaethau a phenderfyniadau'n ymwneud â pholisi sy'n effeithio ar broffidioldeb yr uned;
- Ymgymryd â thasgau stoc arferol sy'n gysylltiedig â gweithredu menter ddefaid fasnachol y Coleg;
- Cynnal safonau glendid uchel a bod yn drefnus;
- Cydweithredu a chysylltu â staff y Gyfadran a bod yn Chwaraewr Tîm;
- Gweithio gyda, goruchwylio a hyfforddi myfyrwyr.
Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
- Cymwysterau Priodol
- Cyfathrebwr da â diplomyddiaeth a thact
- Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol da
- Y gallu i weithio'n gytûn gyda chydweithwyr
- Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
- Sgiliau cyflwyniadol da
- Y gallu i ddefnyddio ystod o systemau a phecynnau TG
- Sgiliau stoc da a chymhwysedd o fewn systemau ffermio llaeth yn gyffredinol
- Gallu defnyddio ystod o gyfarpar a phrosesau fferm
- Trwydded yrru gyfredol
- Rhuglder yn y Gymraeg (Lefel Sgwrsio yn Unig yn Ofynnol)
- Hanes profedig o ymgymryd â gwaith ar fferm
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Am ddisgrifiad swydd llawn, cliciwch ynghlwm.
Buddion
- Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
- Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
- Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
- Cynllun seiclo i'r gwaith
- Maes parcio ceir am ddim ar y safle
- Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein