MANYLION
  • Lleoliad: Caldicot, Monmouthshire, NP26 4HN
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 15 Awst, 2024 5:00 y.p

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Arlwyo

Cyngor Sir Fynwy
Rydym yn chwilio am berson i lenwi’r rôl fel Cynorthwyydd Arlwyo yn Ysgol Gynradd Castle Park. Bydd dyletswyddau yn cynnwys paratoi, gweini, clirio, golchi a glanhau.

Disgwyliadau a Chanlyniadau’r Rôl hon:-
Bydd disgwyl i chi gynorthwyo gyda’r broses o sicrhau bod y gwasanaeth prydau bwyd ysgolion yn cael ei ddarparu yn ddidrafferth ar unrhyw safle addysgol.

Dylai’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn chwaraewr tîm, ac yn meddu ar y gallu i gyfathrebu yn effeithiol ac effeithlon gyda staff ar bob lefel.

Bydd angen cymhwyster Hylendid Bwyd CIEH Lefel 2 ond nid yw hyn hanfodol gan y bydd hyfforddiant priodol yn cael ei ddarparu i’r ymgeisydd llwyddiannus.

Bydd eich cyfrifoldebau yn cynnwys:-
• Gweithio o dan oruchwyliaeth y cogydd a/neu’r cogydd cynorthwyol.

• Dilyn unrhyw gyfarwyddiadau o ran paratoi, coginio a gweini bwyd neu glirio, golchi neu lanhau.

• Yn barod i weithio ar unrhyw amser rhesymol pan fydd yr uned arlwyo

• Yn barod i weithio oriau ychwanegol fel sydd angen o ganlyniad i absenoldeb pobl eraill neu'r galw cynyddol am brydau bwyd ayyb.

• Meddu ar Hylendid Bwyd Lefel 2 CIEH (byddwn yn cynnig hyfforddiant os nad yw’r ymgeisydd yn meddu ar hyn).

• Gweithio fel rhan o dîm arlwyo Sir Fynwy ar unrhyw safle addysgol.

• Mynd ar unrhyw gyrsiau hyfforddi fel sydd angen ar gyfer y swydd.

• Cydymffurfio gyda’r gofynion sydd wedi eu hamlinellu yn Llawlyfr Gweithdrefnau Arlwyo Sir Fynwy o ran safonau ansawdd.

• Cydymffurfio gyda rheoliadau Iechyd a Diogelwch.

• Cydymffurfio ag egwyddorion ac arferion cyfleoedd cyfartal fel sydd wedi eu hamlinellu ym Mholisi Cyfle Cyfartal y Cyngor.

• Rhaid cymryd gwyliau yn ystod gwyliau ysgol.

JOB REQUIREMENTS
Sut fyddwn yn gwybod os mai chi yw’r person cywir ar gyfer y rôl hon? Fel yr ymgeisydd llwyddiannus, byddwch wedi arddangos y canlynol:-

• Profiad blaenorol o weithio mewn cegin.

• Hyblygrwydd o ran yr oriau sydd yn cael eu gweithio.

• Hyblygrwydd a’r parodrwydd i weithio mewn safleoedd addysgol gwahanol, yn sgil absenoldeb eraill o’r gwaith neu cynnydd yn y galw am brydau bwyd ayyb.

• Ymroddiad at ennill cymhwyster Hylendid Bwyd CIEH Lefel 2 os nad yw’r ymgeisydd yn meddu ar hyn yn barod (byddwn yn darparu hyfforddiant llawn);

• Y gallu i weithio fel tîm.

• Parodrwydd i ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant sydd yn briodol i’r rôl.

Parodrwydd i ddilyn gweithdrefnau a pholisïau arlwyo Sir Fynwy, a’u gweithredu’n briodol.

Parodrwydd i ddilyn gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch er mwyn cydymffurfio gyda’r ddeddfwriaeth.

Parodrwydd i gydymffurfio gyda pholisi Cyfle Cyfartal y Cyngor gan gynnwys cwblhau hyfforddiant priodol er mwyn codi ymwybyddiaeth o hyn.

• Y Gymraeg yn Ddymunol
Gall fod angen i chi ddysgu neu wella eich sgiliau presennol drwy fynychu hyfforddiant Cymraeg i staff a gyllidir gan y Cyngor. Gweithredir hyn os yw’r angen yn codi am sgiliau yn y Gymraeg ar gyfer y swydd.