MANYLION
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £29,269 - £32,076 Pro Rata | Grade 6
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 13 Medi, 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Cynorthwyydd Addysgu Arbenigol - Tîm Ymyrraeth Cyfathrebu (ComIT)
Torfaen Local Authority
Cyflog: £29,269 - £32,076 Pro Rata | Grade 6
Rydym yn chwilio am berson trefnus iawn, brwdfrydig a hunan-gymhellol i ymuno â ComIT. Mae'r rôl yn golygu teithio rhwng ysgolion yn rhanbarth De Ddwyrain Cymru. Fel rhan o dîm deinamig, byddwch yn gweithio'n uniongyrchol â Phlant a Phobl Ifanc (PPI) dros pob oedran, sydd ag Anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu.Fel ymgeisydd llwyddiannus, bydd gyda chi wybodaeth a phrofiad sylweddol profedig o weithio gydag Phlant a Phobl Ifanc (PPI) gydag Anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu.
Mi fyddwch yn hunanysgogol gyda'r gallu i ysbrydoli staff ysgol gan eu galluogi i wella eu gwybodaeth a'u sgiliau. Mae gennych hanes o lwyddo i ddefnyddio'ch sgiliau i gefnogi plant a phobl ifanc ag Anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu, ar lefel gyffredinol, lefel wedi ei dargedu a lefel benodol. Mae gweithio'n agos gyda Therapyddion Iaith a Lleferydd BIPAB i gefnogi'r gwaith o gyflwyno Cynlluniau Gofal, ac ymgysylltu â rhieni, yn agweddau allweddol eraill o'r rôl.
Dyddiad cychwyn: 04/11/2024
Am drafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r swydd, cysylltwch â:
Mary Jo Spearey neu Rebecca Kelly - Pennaeth Gwasanaeth ComIT
E-bost: Mary-jo.spearey@torfaen.gov.uk / Rebecca.kelly3@torfaen.gov.uk
Ffôn: 01633 648888
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae'r swydd yn gofyn am gofrestriad gyda CGA - Cyngor y Gweithlu Addysgol
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i bob gweithiwr, cyflogedig neu ddi-dâl, rannu'r ymrwymiad hwn.
Mae croeso i chi gyflwyno'ch cais yn Saesneg neu Gymraeg. Caiff pob cais ei drin yn gyfartal.
Dyddiad Cau: Dydd Gwener 13/09/2024 am Hanner nos (23:59)
Cyfweliadau: Dydd Gwener 27/09/2024