MANYLION
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Pecyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 14 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Athro/ Athrawes Anghenion Addysgol Ychwanegol (AAY) (Ysgol Uwchradd Llanidloes)
Cyngor Sir Powys
Cyflog: Pecyn
Athro/ Athrawes Anghenion Addysgol Ychwanegol (AAY) (Ysgol Uwchradd Llanidloes)Swydd-ddisgrifiad
Athro/ Athrawes Anghenion Addysgol Ychwanegol (AAY)
Mae Ysgol Uwchradd Llanidloes yn un o'r ysgolion mwyaf hapus a llwyddiannus yng Nghymru. Rydym wedi'n bendithio â diwylliant dysgu bywiog a llewyrchus, ethos gofalgar a thîm staff ymroddedig dros ben. Dyma gyfle arbennig ar gyfer athro/ athrawes AAY ysbrydoledig i ymuno ag ysgol ardderchog, categori gwyrdd yng Nghanolbarth Cymru wledig, hardd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus:
- yn ofalgar am les a llwyddiant academaidd pob disgybl;
- yn medru addysgu disgyblion ag AAY yn effeithlon hyd at a chan gynnwys TGAU;
- yn medru datblygu sgiliau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol disgyblion yn effeithlon;
- yn weithgar, yn ysbrydoli cariad tuag at ddysgu ac yn sicrhau bod pob disgybl yn cyrraedd y safon academaidd uchaf posibl;
- yn ddynamig yn y dosbarth ac yn cynnal safonau uchel iawn o addysgu a dysgu;
- â sgiliau rhyngbersonol rhagorol, yn aelod da o dîm ac yn medru gweithio'n annibynnol;
- â sgiliau trefniadol gwych ac etheg gwaith cryf;
- â gwybodaeth dda o ddeddfwriaeth a gweithdrenau AAY cyfredol ac arferion person-ganolog, cynhwysol;
- yn cyfrannu'n llawn tuag at ddarparu cyfleoedd allgyrsiol;
- ag agwedd bositif tuag at ddatrys problemau.
Y dyddiad terfyn ar gyfer ceisiadau yw hanner dydd, dydd Sul, 14 Gorfennaf. Bydd y rhestr fer yn cael ei llunio yn ystod yr wythnos yn dechrau 15 Gorfennaf a bydd cyfweliadau yn ystod yr wythnos yn dechrau dydd Gwener 18ain Gorgennaf.
Os oes angen mwy o wybodaeth, cysylltwch â Mrs Amanda Beese.
mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS