MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Brynrefail, Llanrug,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £18,371 - £19,645 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 12 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cymhorthydd Cefnogaeth Dysgu Lefel 3 - Ysgol Brynrefail

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £18,371 - £19,645 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG

YSGOLION UWCHRADD

YSGOL BRYNREFAIL, LLANRUG

(Gyfun 11 - 18 oed, 789 o ddisgyblion)

Yn eisiau: Medi 1af, 2024
1 x CYMHORTHYDD CEFNOGAETH DYSGU LEFEL 3

Cytundeb blwyddyn

Oriau gwaith: 32.5 awr yr wythnos.

(39 wythnos y flwyddyn tymor ysgol gan gynnwys dyddiau Hyfforddiant Mewn Swydd).

Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i berson brwdfrydig ac egnïol ar gyfer y swydd uchod sydd yn meddu ar y cymwysterau priodol a'r sgiliau addas.

Mae'r swydd hon yn ran o gynllun Cynyddu Capasiti'r Gweithle Cyfrwng Cymraeg gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn chwilio am berson sydd wedi graddio eleni neu'n ddiweddar, ac sydd yn dymuno gweithio mewn amgylchedd ysgol am flwyddyn gyda'r posiblrwydd o ddilyn cwrs i gymhwyso'n athro y tu draw i hynny.

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS4 pwyntiau 7 - 11 (sef £18,371 - £19,645) y flwyddyn, yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd yma. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu i'w cyflwyno i'r Rheolwr Busnes a Chyllid, Mrs Angharad Parry Davies, Ysgol Brynrefail, Ffordd Crawia, Llanrug, Caernarfon, Gwynedd, LL55 4AD. Rhif ffôn: 01286 672381; e-bost : sg@brynrefail.ysgoliongwynedd.cymru Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD GWENER 12FED O ORFFENNAF, 2024.

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

(The above is an advertisement for a 1 x Learning Support Assistant Level 3 at Ysgol Brynrefail, Llanrug for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential The Council will require a Disclosure and Barring Service Certificate and confirmation of registration with the Education Workforce Council for the successful applicant before they can start at the school ).

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.

Manylion Person

.

Swydd Ddisgrifiad

TEITL Y SWYDD:
UWCH GYMHORTHYDD (Lefel 3)
Cefnogi Disgyblion
YSTOD CYFLOG:
Graddfa Gweithwyr Llywodraeth Leol - GS4 (pwyntiau 7-11).
32.5 awr yr wythnos yn ystod y 39 wythnos tymhorau ysgol ynghyd â hyd at gyfanswm o un wythnos arall yn ystod gwyliau ysgol ar gais y Pennaeth yn amodol ar flaen rybudd rhesymol.
AMODAU GWAITH:
Dyddiau Gwaith:
Oriau Gwaith:
Rhybudd Gadael:
Yn unol ag amodau gwaith Cenedlaethol ac atodol lleol Cyngor Gwynedd ar gyfer staff G.P.T. ac Ch. a gweithwyr llaw.
Llun i Gwener
32.5 awr yr wythnos yn ystod tymor ysgol yn unig.
8:30 - 3:30 Dyddiau Llun - Gwener.
- gyda 30 munud di-dâl i ginio pob dydd.
- ynghyd â hyd at gyfanswm o un wythnos arall yn ystod gwyliauysgol ar gais y Pennaeth yn amodol ar flaen rybudd rhesymol.
Yn ysgrifenedig mis ymlaen llaw.
YN ATEBOL I:
Rheolwr Dyddiol - o ran y cyflenwi/arolygu arholiadau.
Cyd-gysylltydd ADY - o ran y cefnogi yn gyffredinol.
Pennaeth Addysg Gorfforol - o ran cefnogi Addysg Gorfforol a'r rhaglen
all-gwricwlaidd chwaraeon.
PWRPAS Y SWYDD
Gweithio o dan arweiniad athrawon ac/neu aelodau o dîm rheoli'r ysgol o fewn cyfundrefn gytønooruchwyliaeth.
Cefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion i alluogi mynediad i ddysgu. Gallai hyn gynnwys yrhai sydd angen gwybodaeth fanwl ac arbenigol mewn meysydd penodol.
Cyfrannu at gylch cynllunio'r athro er mwyn sicrhau bod gan bob disgybl fynediad cyfartal iddysgu.
Yn achlysurol, goruchwylio dosbarthiadau cyfan yn ystod absenoldeb tymor byr yrathro/athrawes. Prif ffocws cyflenwi o'r fath fydd ymateb i gwestiynau, cynorthwyo disgyblion iymgymryd â gweithgareddau a osodwyd ac aros ar y dasg a chynnal trefn.
PRIF DDYLETSWYDDAU
Cefnogaeth i Ddisgyblion
Pan na fydd angen arolygu dosbarthiadau (a/neu arholiadau), bydd disgwyl i'r Uwch-gymhorthydd gefnogi disgyblion.
Bydd amserlen wythnosol parod ar gael gan Gyd-gysylltydd ADY yr ysgol ar gyfer yr UwchGymhorthydd.
Fe adolygir yr amserlen yn rheolaidd yn unol â gofynion yr ysgol.
Bydd cefnogi yn digwydd gyda dosbarthiadau cyfan (gyda'r athro/awes arferol), gyda grwpiaubach a/neu gydag unigolion yn unol â rhaglen waith wedi ei chytuno â'r athrawon perthnasola/neu'r Cyd-gysylltydd ADY.
Bydd cefnogi yn digwydd yn wythnosol gydag ambell ddosbarth mawr o fechgyn yn AddysgGorfforol drwy gymryd cyfrifoldeb am grŵp arwyddocaol o'r bechgyn ar wahân i weddill ydosbarth fydd gyda'r athro Addysg Gorfforol.
Bydd angen adrodd yn ôl ar gynnydd y disgyblion i'r athrawon perthnasol ac i'r Cyd-gysylltyddADY.
Canolbwyntir y cefnogi ar agweddau yn ymwneud yn bennaf a sgiliau llythrennedd, rhifedd athechnoleg gwybodaeth mewn cyd-destun y pynciau ysgol a hefyd agweddau o ymddygiad asgiliau cymdeithasol.
Defnyddio sgiliau/hyfforddiant/profiad arbenigol (cwricwlaidd/dysgu) i gefnogi disgyblion.
Cynorthwyo gyda datblygu a gweithredu CAU (IEPs) a CYU(IBPs).
Sefydlu perthynas weithio bwrpasol gyda'r disgyblion ac ennyn disgwyliadau uchel.
Hybu cynhwysiad a derbyniad pob disgybl o fewn y dosbarth.
Rhoi sylw i anghenion personol disgyblion a gweithredu rhaglenni personol perthynol, yncynnwys rhai cymdeithasol, iechyd, corfforol, hylendid, cymorth cyntaf, toiledau, bwydo asymudoledd.
Yn dilyn hyfforddiant, gweinyddu meddyginiaeth yn unol â'r gweithdrefnau polisïau yr AALL acysgolion.
Cefnogi disgyblion yn gyson gan adnabod ac ymateb i'w hanghenion unigol.
Annog disgyblion i ryngweithio a chydweithio gydag eraill.
Hybu annibyniaeth a defnyddio strategaethau ar gyfer adnabod a gwobrwyo cyflawnihunanddibyniaeth.
Darparu adborth effeithlon i ddisgyblion mewn perthynas â rhaglenni ac adnabod a gwobrwyocyflawniad, yn cynnwys ymddygiad a phresenoldeb.
GORUCHWYLIWR/GORUCHWYLWRAIG GYFLENWI
Arolygu arholiadau mewnol ac allanol fel bo'r gofyn.
Cefnogaeth i ddisgyblion wrth oruchwylio dosbarthiadau yn absenoldeb yr athro/athrawes
Cofrestru a chofnodi presenoldeb myfyrwyr mewn gwersi.
Cyfarwyddo myfyrwyr ynghylch y gwaith a adawyd gan eu hathro/hathrawes.
Darparu'r adnoddau angenrheidiol i'r myfyrwyr ar gyfer eu dysgu.
Sicrhau yr eir i mewn i'r dosbarthiadau ac y deuir allan ohonynt yn drefnus.
Creu amgylchedd tawel a phwrpasol lle gall disgyblion gwblhau gwaith a osodwyd gan yr athrodosbarth.
Rheoli ymddygiad y disgyblion a chadw trefn yn y dosbarthiadau yn unol â pholisïau achanllawiau'r ysgol.
Cyfathrebu â'r Pennaeth Blwyddyn berthnasol o safbwynt monitro ac adrodd ar faterion bugeiliola/neu ymddygiad.
Dilyn cyfundrefnau a gweithdrefnau ysgol ar reoli ymddygiad.
Rheoli adnoddau'n effeithlon a sicrhau y gadewir dosbarthiadau'n daclus ac yn barod ar gyfer ywers nesaf.
Casglu unrhyw waith a gwblhawyd ar ôl y wers a'i ddychwelyd i'r athro priodol.
Cysylltu â'r athro/athrawes mewn perthynas â gwaith cyflenwi.
Cydweithio â'r rheolwr cyflenwi dyddiol yr ysgol ynglŷn ag amserlen arolygu ddyddiol.
Cefnogaeth i'r Athro/Athrawes
Gweithio gyda'r athro/athrawes i greu amgylchedd dysgu pwrpasol, trefnus a chynhaliol.
Gweithio gyda'r athro/athrawes i gynllunio gwersi, gwerthuso ac addasu gwersi/cynlluniaugwaith fel y bo'n briodol.
Monitro a gwerthuso ymatebion y disgyblion i weithgareddau dysgu drwy arsylwi a chofnodicyflawniad yn erbyn nodau dysgu a bennwyd ymlaen llaw.
Darparu cefnogaeth glerigol/weinyddol gyffredinol, e.e. gweinyddu gwaith cwrs, cynhyrchutaflenni gwaith at gyfer gweithgareddau y cytunwyd arnynt.
Darparu adborth llafar ac ysgrifenedig i'r athro/athrawes ar gynnydd a chyflawniad disgyblion.
Fel y cytunwyd gyda'r athro/athrawes, bod yn gyfrifol am gadw a diweddaru cofnodion.Cyfrannu at arolwg o gyfundrefnau cadw cofnodion yr ysgol fel bo'r gofyn.
Cefnogaeth i'r Cwricwlwm
Gweithredu gweithgareddau dysgu a rhaglenni addysgu y cytunwyd arnynt.
Gweithredu rhaglenni cysylltiedig â strategaethau dysgu lleol, e.e. llythrennedd, rhifedd, TGaCh.
Gwneud defnydd effeithiol o gyfleoedd a ddarperir gan weithgareddau dysgu eraill i gefnogidatblygu sgiliau perthnasol.
Cefnogi'r defnydd o TGaCh mewn gweithgareddau dysgu a datblygu cymhwysedd acannibyniaeth y disgyblion wrth ei ddefnyddio.
Cynorthwyo disgyblion i gael mynediad i weithgareddau dysgu drwy gefnogaeth arbenigol.
Pennu'r angen am offer ac adnoddau cyffredinol ac arbenigol, eu paratoi a'u cynnal a'u cadw.
GORUCHWYLIWR CYFLENWI/ GORUCHWYLWRAIG GYFLENWI
Cefnogaeth i'r Cwricwlwm wrth oruchwylio dosbarthiadau yn absenoldeb athro/athrawes.
Casglu banc o waith goruchwylio mewn cysylltiad ag aelodau perthnasol y staff addysgu.
Cefnogaeth i'r Ysgol
Bod yn ymwybodol o'r polisïau a'r gweithdrefnau perthynol i gynhwysiad, amddiffyn plant,iechyd, diogelwch a diogeled, cyfrinachedd ac amddiffyn data, a chydymffurfio â hwy, ganadrodd am bob pryder wrth y person priodol. Dylai hyn hefyd, ar gyfer goruchwylwyr cyflenwi,gynnwys rheoli ymddygiad.
Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol, yn cynnwys y Cwricwlwm Cymreig.
Sefydlu perthynas bwrpasol a chyfathrebu gydag asiantaethau/proffesiynolwyr eraill, mewncysylltiad â'r athro/athrawes, i gefnogi cyflawniad a chynnydd y disgyblion.
Mynychu cyfarfodydd rheolaidd a chyfranogi ynddynt.
Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill, fel y bo'n ofynnol.
Adnabod cryfderau a meysydd arbenigedd yr hunan a defnyddio'r rhain i gynghori a chefnogieraill.
Darparu arweiniad a goruchwyliaeth briodol a chynorthwyo yn hyfforddiant a datblygiad staffcynhaliol eraill fel y bo'n briodol.
Ymgymryd â goruchwylio cynlluniedig o weithgareddau dysgu'r disgyblion y tu allan i oriauysgol.
Goruchwylio'r disgyblion ar ymweliadau, teithiau a gweithgareddau y tu allan i'r ysgol.
Mae'r ysgol yn cynnal rhaglen gyfoethog o weithgareddau a disgwylir i'r Uwch Gymhorthyddgefnogi'r rhaglen yn rheolaidd, yn enwedig y rhaglen chwaraeon.
Datblygiad Cyfatebol Eraill
Yn achlysurol bydd angen ymgymryd â dyletswyddau eraill ar gais y Pennaeth.
U:\GWAITH KWO\STAFF\STAFF - PERSONEL\2 - STAFF ATEGOL\OWEN, Carwyn Siôn\Swydd Ddisgrifiad Uwch Gymhorthydd Dosbarth (CSO) 01.09.2023.doc 01-09-2023
DATBLYGIAD PROFFESIYNOL A HYFFORDDIANT MEWN SWYDD
Mae'r ysgol yn cefnogi datblygiad proffesiynol pob aelod o'r staff drwy raglen o hyfforddiant mewn swydd.
Bydd hyfforddiant ar gael i'r Uwch Gymhorthydd drwy'r dulliau canlynol yn bennaf:
mynychu cyrsiau sirol
mynychu cyrsiau mewnol yn yr ysgol
cysgodi a chyd-weithio â staff eraill
mentora gan y Cyd-gysylltydd ADY a'r Pennaeth Adran Addysg Gorfforol
Dyletswyddau Penodol Eraill
Cydymffurfio â pholisi iechyd a diogelwch yr ysgol ac asesiadau risg yn ôl y gofyn.
Sylwer:
Tra bod pob ymdrech wedi'i gwneud i esbonio prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau'r swydd,efallai nad yw pob tasg unigol wedi'i nodi.
Nid yw'r swydd ddisgrifiad hon yn ffurfio rhan o gytundeb cyflogaeth.
Disgwylir i ddeilydd y swydd gydymffurfio ag unrhyw gais rhesymol gan reolwr i ymgymryd âgwaith o lefel debyg nad yw wedi'i nodi yn y swydd ddisgrifiad hon.
Bydd yr ysgol yn gwneud pob ymdrech i gyflawni unrhyw addasiadau rhesymol i'r swydd a'ramgylchfyd gwaith i alluogi mynediad at gyfleoedd cyflogaeth ar gyfer ymgeiswyr anabl neugyflogaeth barhaol ar gyfer cyflogai sy'n datblygu cyflwr sy'n anablu.
Mae'r swydd ddisgrifiad yn gyfredol ar y dyddiad a ddangosir, ond yn dilyn ymgynghori â chi,gellir ei newid gan reolwr er mwyn adlewyrchu neu ragweld newidiadau yn y swydd sy'ngymesur â'r cyflog/lwfans a theitl y swydd.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi