MANYLION
- Lleoliad: Wrexham,
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 12 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Cynorthwyydd Addysgu Lefel 1 (Cymorth Unigol) - 20 awr yr wythnos
Cyngor Wrecsam
Disgrifiad
Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru y Santes Fair
Lôn yr Ysgol
Owrtyn
Wrecsam
LL13 0ES
01978 710370
Pennaeth: Mr. D Morris
CYFNOD SYLFAEN
CYMHORTHYDD ADDYSGU LEFEL 1 (Cymorth Unigol)
GWEITHIO AR SAIL UNIGOL 1:1 YN CEFNOGI DISGYBL AG ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL
Gradd G03 £10,256 - £10,426 y flwyddyn
20 awr yr wythnos
8.55am - 1:00pm Dydd Llun - Dydd Gwener
Dros Dro, gan ddechrau 01/09/2024 tan 31/08/2025 (neu nes bydd y disgybl yn gadael y lleoliad)
YN YSTOD Y TYMOR YN UNIG HEB UNRHYW WYLIAU YN YSTOD Y TYMOR
I gychwyn ym mis Medi 2024
Mae Corff Llywodraethu Ysgol yr Eglwys yng Nghymru y Santes Fair, Owrtyn, yndymuno penodi cymhorthydd addysgu Lefel 1 gofalgar, brwdfrydig a gweithgar, sy'n ymroddedig i gefnogi a hyrwyddo lles cadarnhaol disgyblion a phrofiadau dysgwyr, yn ogystal â'u datblygiad proffesiynol eu hunain. Fel Cymhorthydd Addysgu Lefel 1, byddwch yn gweithio o fewn ein hadran Dysgu Cynnar gyfeillgar, yn darparu cymorth 1 i 1 i ddisgybl ag oedi datblygiadol hollgynhwysol ac anghenion gofal a bwydo sylweddol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi'r disgybl yn y dosbarth ac yn gweithio'n unigol ar gynlluniau addysg a baratowyd. Bydd disgwyl i chi hefyd weithio'n agos gyda'r Athro/ Athrawes Dosbarth, y Cydlynydd ADY ac asiantaethau allanol yn ôl yr angen, i gefnogi'r disgybl. Mae profiad o weithio gyda phlant sydd â sgiliau Cyfathrebu Cymdeithasol hwyr a gwybodaeth am oedi mewn iaith a lleferydd yn ddymunol iawn. I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, cysylltwch â'r Pennaeth ar y rhif ffôn uchod.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
• Hyrwyddo ethos yr ysgol o ran cynhwysiant a dathlu natur amrywiol ein hysgol
• Gweithio yn ein hadran Dysgu Sylfaen gynhwysol, gan ddarparu cymorth 1 i 1 i ddisgybl ag anghenion dysgu (darperir hyfforddiant)
• Gweithio'n agos â'r athrawon dosbarth, gan ddarparu ymyraethau penodol i gynorthwyo'r disgybl i wneud cynnydd
• Cefnogi'r disgybl i weithio yn amgylchedd yr ystafell ddosbarth ac mewn grŵp bach/ar sail 1:1 gan ganolbwyntio ar dargedau unigol y disgybl
• Gweithio ochr yn ochr â'r athrawon dosbarth a chymorthyddion addysgu i sefydlu perthnasoedd gwaith cadarnhaol â'r rhieni ac asiantaethau allanol perthnasol i gefnogi anghenion y disgybl
• Darparu gofal personol i'r disgybl
• Gallu cynnal/ codi'r disgybl yn gorfforol, os bydd angen
• Sgiliau TGCh da a gallu defnyddio cyfarpar TG yn hyderus
• Mae profiad o weithio gyda disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn ddymunol iawn
I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, cysylltwch â'r Pennaeth ar y rhif ffôn uchod.
Mae croeso i ymgeiswyr ymweld â'r ysgol. Ffoniwch i drefnu apwyntiad.
I ymgeisio: Llenwch y ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig a'i hanfon gydag unrhyw wybodaeth ategol at Mr D. Morris (Pennaeth) i mailbox@stmarys-overton-pri.wrexham.sch.uk
Os bydd angen i chi lenwi'r ffurflen â llaw, dylech argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol drwy'r cyfeiriad uchod.
NODWCH 'Cymhorthydd Addysgu Cymorth 1:1' YN GLIR AR Y FFURFLEN GAIS.
Oherwydd nifer y ceisiadau a dderbyniwn, nid ydym bob amser yn gallu cysylltu â phob ymgeisydd yn unigol, felly os nad ydych chi wedi clywed gennym o fewn 3 wythnos i'r dyddiad cau, dylech gymryd yn ganiataol nad yw'ch cais yn llwyddiannus.
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Dyddiad Cau: 12 Gorffennaf 2024
Rhestr Fer/ Cyfweliadau: Yr wythnos yn dechrau 15 Gorffennaf 2024
Cyfweliadau ac Arsylwadau: Sylwch - fel rhan o'r broses gyfweld, bydd sesiwn arsylwi fer o weithgaredd mewn sefyllfa ystafell ddosbarth a ddarperir gan yr athro/athrawes dosbarth, o flaen llaw.