MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 12 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cymhorthydd Addysgu Lefel 1 (Meithrin - PM 13.75 hpw)

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru y Santes Fair

Lôn yr Ysgol

Owrtyn

Wrecsam

LL13 0ES

01978 710370

Pennaeth: Mr. D Morris

CYFNOD SYLFAEN

CYMHORTHYDD ADDYSGU LEFEL 1

G03 £7,051 - £7,168 y flwyddyn

13.75 awr yr wythnos

12.30 - 3.15pm dydd Llun - dydd Gwener

Gellir cyfuno'r swydd â'r un ar gyfer Cymhorthydd Addysgu AM

Dros Dro, gan ddechrau 01/09/2024 tan 31/08/2025

YN YSTOD Y TYMOR YN UNIG HEB UNRHYW WYLIAU YN YSTOD Y TYMOR

I gychwyn ym mis Medi 2024

Mae Corff Llywodraethu Ysgol yr Eglwys yng Nghymru y Santes Fair, Owrtyn, yn dymuno penodi cymhorthydd addysgu Lefel 1 gofalgar, brwdfrydig a gweithgar, sy'n ymroddedig i gefnogi a hyrwyddo lles cadarnhaol disgyblion a phrofiadau dysgwyr, yn ogystal â'u datblygiad proffesiynol eu hunain. Fel Cymhorthydd Addysgu Lefel 1, byddwch yn gweithio yn nhîm cyfeillgar ein hadran Dysgu Cynnar:

PRIF DDYLETSWYDDAU A CHYFRIFOLDEBAU

CEFNOGI'R DISGYBLION

• Goruchwylio disgyblion a darparu cefnogaeth benodol iddynt, gan gynnwys y rhai sydd ag anghenion arbennig, gan sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn medru cymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu

• Cynorthwyo wrth ddatblygu a gweithredu Cynlluniau Addysg / Ymddygiad Unigol a rhaglenni Gofal Personol

Sefydlu perthynas adeiladol gyda'r disgyblion a rhyngweithio â hwy yn ôl eu hanghenion unigol

• Hyrwyddo diwylliant o gynnwys a derbyn yr holl ddisgyblion

• Annog disgyblion i ryngweithio gydag eraill a chymryd rhan mewn gweithgareddau dan arweiniad yr athro

• Pennu disgwyliadau heriol ac ymestynnol a hybu hunan-barch ac annibyniaeth

• Siarad â disgyblion i drafod eu cynnydd a'u cyflawniad dan arweiniad yr athro.

CEFNOGI'R ATHRAWON

• Creu a chynnal amgylchedd pwrpasol, trefnus a chefnogol, yn unol â chynlluniau gwersi, a helpu i arddangos gwaith y disgyblion

• Defnyddio strategaethau, ar y cyd â'r athro, i gefnogi disgyblion i gyflawni nodau dysgu

• Cynorthwyo wrth gynllunio gweithgareddau dysgu

• Monitro ymatebion y disgyblion i weithgareddau dysgu, a chadw cofnod cywir o gyflawniad / cynnydd yn ôl cyfarwyddyd

• Darparu adroddiadau manwl i'r athrawon yn gyson ynglÅ•n â chyflawniad a chynnydd y disgyblion ac unrhyw broblemau a materion eraill

• Hyrwyddo ymddygiad da gan ddisgyblion, ymdrin â gwrthdaro a digwyddiadau ar unwaith yn unol â'r polisi sefydledig ac annog disgyblion i gymryd cyfrifoldeb dros eu hymddygiad eu hunain

• Meithrin perthynas gadarnhaol â rhieni/gofalwyr

• Gweinyddu profion rheolaidd, goruchwylio arholiadau a marcio gwaith y disgyblion

• Darparu cefnogaeth glercyddol/weinyddol, gan gynnwys llungopïo, teipio, ffeilio, trin arian, gweinyddu gwaith cwrs ac ati.

CEFNOGI'R YSGOL

• Bod yn ymwybodol o bolisïau a gweithdrefnau amddiffyn plant, iechyd a diogelwch, diogeledd, cyfrinachedd a diogelu data a chydymffurfio â hwy, gan roi gwybod am unrhyw bryderon i rywun priodol

• Bod yn ymwybodol a chefnogol o wahaniaeth a sicrhau mynediad cyfartal i bob disgybl at gyfleoedd i ddysgu a datblygu

• Cyfrannu at ethos, gwaith ac amcanion cyffredinol yr ysgol

• Gwerthfawrogi a chefnogi swyddogaethau gweithwyr proffesiynol eraill

• Bod yn bresennol mewn cyfarfodydd perthnasol a chymryd rhan ynddynt yn ôl y gofyn

• Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu a datblygu perfformiad eraill yn ôl yr angen

• Helpu i oruchwylio disgyblion y tu allan i amser gwersi, gan gynnwys cyn ac ar ôl yr ysgol ac yn ystod amser cinio

• Mynd gyda staff addysgu a disgyblion ar ymweliadau, teithiau a gweithgareddau y tu allan i'r ysgol yn ôl yr angen, a bod yn gyfrifol am grŵp o ddisgyblion dan oruchwyliaeth yr athro.

I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, cysylltwch â'r Pennaeth ar y rhif ffôn uchod.

Mae croeso i ymgeiswyr ymweld â'r ysgol. Ffoniwch i drefnu apwyntiad.

I ymgeisio: Llenwch y ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig a'i hanfon gydag unrhyw wybodaeth ategol at Mr D. Morris (Pennaeth) i mailbox@stmarys-overton-pri.wrexham.sch.uk

Os bydd angen i chi lenwi'r ffurflen â llaw, dylech argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol drwy'r cyfeiriad uchod.

NODWCH 'CYMHORTHYDD ADDYSGU MEITHRIN PM' YN EGLUR AR Y FFURFLEN GAIS

Oherwydd nifer y ceisiadau a dderbyniwn, nid ydym bob amser yn gallu cysylltu â phob ymgeisydd yn unigol, felly os nad ydych chi wedi clywed gennym o fewn 3 wythnos i'r dyddiad cau, dylech gymryd yn ganiataol nad yw'ch cais yn llwyddiannus.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

Dyddiad Cau: 12 Gorffennaf 2024

Rhestr Fer/ Cyfweliadau: Yr wythnos yn dechrau 15 Gorffennaf 2024

Cyfweliadau ac Arsylwadau: Sylwch - fel rhan o'r broses gyfweld, bydd sesiwn arsylwi fer o weithgaredd mewn sefyllfa ystafell ddosbarth a ddarperir gan yr athro/athrawes dosbarth, o flaen llaw.