MANYLION
  • Lleoliad: Caernarfon,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 15 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Uwch Seicolegydd Addysgol

Cyngor Gwynedd

Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd

Manylion
Hysbyseb Swydd

Cyflog: Graddfa Soulbury EP B1-3 (+3 SPA)

£ 52,678.00 - £56, 540 (+ 3SPA hyd at £61, 848) y flwyddyn pro rata

Oriau wythnosol: i'w drafod

Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.

(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)

Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Siwan Elenid Glyn ar 01766 761000 est. 32191

Bydd y cyfweliadau yn cael eu cynnal: 19/07/2024

Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH

Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru

DYDDIAD C AU: 10.00 O'R GLOCH, 15/07/2024

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus

Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.

Manylion Person

NODWEDDION PERSONOL

HANFODOL

• Bod yn hyddysg yng ngweledigaeth Strategaeth ADYaCh Gwynedd ac
Ynys Môn
• Bod yn berchen ar weledigaeth ynghylch rôl y Gwasanaeth Seicoleg
Addysgol o fewn Tîm Integredig ADYaCh Gwynedd ac Ynys Môn
o Yn medru cyfleu'r weledigaeth hon i eraill
o Yn medru ei throsi'n gyfres o nodau er mwyn cyfrannu i gynllun datblygu
hyfyw
• Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol
• Sgiliau rhyngbersonol rhagorol
• Y gallu i weithio dan bwysau a chyfarfod â therfynau amser
• Trwydded yrru llawn a mynediad at drafnidiaeth

CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL

HANFODOL
• Cymhwyster lefel gradd mewn Seicoleg
• Cymhwyster uwch mewn Seicoleg Addysgol (gradd Meistr neu
Ddoethuriaeth mewn Seicoleg Addysgol)
• Seicolegydd Addysg Rheoledig Y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
(HCPC)

DYMUNOL
• Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus

PROFIAD PERTHNASOL

HANFODOL
• Profiad o weithio fel Seicolegydd Addysgol

DYMUNOL
• Profiad o reoli a goruwchylio gweithwyr proffesiynnol eraill
• Profiad o arwain prosiectau

SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL

HANFODOL
• Gwybodaeth a dealltwriaeth drylwyr am ddatblygiadau diweddar ym
maes Seicoleg Addysgol
• Y gallu i gymryd rhan allwedol oddi mewn i rwydweithiau gwasanaeth i
blant a'u teuluoedd.
• Y galluoedd a gwybodaeth i arwain, rheoli a datblygu pobl yn effeithiol
• Ymwybodol o Strategaeth ADYaCh Gwynedd ac Ynys Môn
• Dealltwriaeth o'r ddeddfwriaeth ADYaCh a'r Cod Ymarfer
• Dealltwriaeth o Ddulliau Canolbwyntio ar yr Unigolyn
• Dealltwriaeth o Gynlluniau Datblygu Unigol

DYMUNOL
• Arbenigedd mewn meysydd penodol
• Sgiliau goruchwyliaeth broffesiynol i Seicolegwyr a Seicolegwyr o dan
Hyfforddiant.

ANGHENION IEITHYDDOL

Gwrando a Siarad
Gallu cyflwyno pob agwedd o'r swydd ar lafar yn hyderus drwy gyfrwng y
Gymraeg a'r Saesneg gystal â'i gilydd.
Darllen a Deall
Gallu defnyddio a dehongli'n gywir unrhyw wybodaeth o amrywiol ffynonellau
drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar gyfer cyflawni holl agweddau'r swydd.
Ysgrifennu
Gallu cyflwyno gwybodaeth yn ysgrifenedig drwy gyfrwng y Gymraeg a'r
Saesneg mewn modd gwbl hyderus gan ddefnyddio'r dull a'r iaith fwyaf priodol
ar gyfer y pwnc a'r gynulleidfa

Swydd Ddisgrifiad

Pwrpas y Swydd.

• Sicrhau bod plant a phobl ifanc Gwynedd ac Ynys Môn yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud drwy:
• Hyrwyddo arfer dda trwy ddefnyddio gwybodaeth a thechnegau seicolegol.
• Cymryd rôl strategol ar ran yr A.Ll. yn y meysydd dynodedig sydd yn cyd-fynd â strategaeth ADY a
Chynhwysiad, a Strategaeth Addysg Awdurdodau Lleol Gwynedd ac Ynys Môn. Gall hyn gynnwys:
• Datblygu ac adolygu rhaglen Hyfforddiant Mewn Swydd ar gyfer staff ysgolion, rhieni ac aelodau o'r Tîm
Integredig mewn maes/meysydd penodol mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid perthnasol.
• Paratoi a chyflwyno hyfforddiant yn y maes/meysydd hynny
• Datblygu a hybu defnydd o Feini Prawf addas ar gyfer y maes/meysydd hwn mewn cydweithrediad a
rhanddeiliaid perthnasol.
• Cymryd rôl strategol o fewn Fforwm y maes/meysydd yma.
• Sicrhau fod ymyraethau sydd yn cael eu cynnig yn y maes/meysydd yn seiliedig ar dystiolaeth ac ymchwil o
effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd.
• Cynllunio, monitro ac adolygu ymyraethau effeithiol ar gyfer disgyblion unigol.
• Cyfrannu at y dystiolaeth sydd ar gael yn y maes/meysydd yma trwy brosiectau ymchwiliol ac ystyried
effeitholrwydd ac effeithlonrywdd y gwasanaethau.
• Cymryd rhan uniongyrchol ym mhecyn ymyrraeth rhai unigolion lle yn briodol.

Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer

• Cynorthwyo'r Prif Seicolegydd gyda chyfrifoldebau rheolwr llinell ar gyfer y Seicolegwyr Addysgol.
• Gliniadur a ffôn symudol

Prif Ddyletswyddau.

• Cyfrifoldeb tros arweiniad strategol gan gynnwys gweithredu rôl benodol o fewn y Fforymau Ardal
ADYaCh, sicrhau cysondeb o ran y defnydd o'r Meini Prawf a chynllunio rhaglen hyfforddiant
gynhwysfawr i staff ysgolion a'r gwasanaeth canolog.
• Cynorthwyo'r Uwch Reolwr ADY gyda monitro ansawdd a mapio darpariaeth y tîm yn y meysydd
dynodedig.
• Monitro llwyth gwaith a defnydd yr Athrawon Arbeinol o fewn y maes dynodedig, mewn ymgynghoriad
gyda'r Uwch Reolwr ADY a'r Swyddog Ansawdd ADYaCh Ardal er mwyn sicrhau ansawdd a'r defnodd
orau o adnoddau'r Tîm hwnnw.
• Datblygu ac adolygu rhaglen Hyfforddiant Mewn Swydd ar gyfer staff ysgolion, rhieni ac aelodau o'r Tîm
Integredig mewn maes/meysydd penodol mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid perthnasol.
• Paratoi a chyflwyno hyfforddiant yn y maes/meysydd hynny
• Datblygu a hybu defnydd o Feini Prawf addas ar gyfer y maes/meysydd hwn mewn cydweithrediad a
rhanddeiliaid perthnasol.
• Cymryd rôl strategol o fewn Fforwm y maes/meysydd yma.
• Sicrhau fod ymyraethau sydd yn cael eu cynnig yn y maes/meysydd yn seiliedig ar dystiolaeth ac
ymchwil o effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd.
• Cynllunio, monitro ac adolygu ymyraethau effeithiol ar gyfer disgyblion unigol.
14.12.16
Prif Ddyletswyddau. .
• Cyfrannu at y dystiolaeth sydd ar gael yn y maes/meysydd yma trwy brosiectau ymchwiliol ac ystyried
effeitholrwydd ac effeithlonrywdd y gwasanaethau.
• Cymryd rhan uniongyrchol ym mhecyn ymyrraeth rhai unigolion lle yn briodol.
• Ymgymryd â gwaith ymgynghorol o fewn ysgolion, mewn rhan diffiniedig o'r Sir ac o fewn ardal, gan
sicrhau fod y gwasanaethau a'r asiantaethau sydd yn cynorthwyo'r plant, eu hysgolion a'u rhieni, yn
derbyn gwybodaeth a chyngor priodol. Gall y diriogaeth amrywio yn ôl gofynion y gwasanaeth.
• Cyfrannu i arfarniad o effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y Gwasanaeth Seicoleg Addysgol a
Gwasanaeth Integredig yr A.Ll. yn ôl dangosyddion effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd yr A.Ll.
• Ymgymryd â dyletswyddau statudol yn ôl Cod Ymarfer Cymru a gweithredu polisïau a phrosesau
statudol ac eraill yr A.Ll.
• Darparu Gwasanaeth rheolaidd o ymgynghori i ysgolion, trwy weithio o fewn y Tîm Integredig mewn
ardal benodedig, a fydd yn nodi'r mathau o gynhaliaeth a gynigir oddi mewn i'r adnoddau staffio sydd yn
bodoli.
• Cynorthwyo ysgolion i ddiwallu anghenion addysgol y disgyblion a gyfeirir trwy ddull ymgynghorol a
hwyluso cynllunio sydd yn canolbwyntio ar yr unigolyn.
• Ymgymryd â hyfforddiant proffesiynol pellach a fydd yn angenrheidiol i weithrediad effeithlon ac effeithiol
y Gwasanaeth yn unol â Chynllun Datblygiad Proffesiynol er mwyn sicrhau fod y gwasanaeth sydd yn
cael ei gynnig yn cyrraedd safonau'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC).
• Cyfrannu yn strategol a gweithredol i brosiectau penodol sydd yn cael eu sefydlu gan yr A.Ll.
• Cydweithio mewn modd integredig gyda gwasanaethau eraill o fewn yr A.Ll. a chysylltu â chydweithio
gyda gwasanaethau ac asiantaethau eraill yn unol â'r anghenion a'r ymarfer yn yr Awdurdod Addysg.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill ar gais Rheolwyr sy'n briodol i lefel cyfrifoldeb y swydd.
Cyffredinol
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn
Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau
bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i
weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel
cyfrifoldeb y swydd.
• Ymateb i unrhyw gais rhesymol arall ar gais y Pennaeth Gwasanaeth Addysg.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin

Dim ond amlinelliad o ddyletswyddau'r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o'r lefel
cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw'r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all
dyletswyddau'r swydd newid o bryd i'w gilydd heb newid ei natur sylfaenol a'r lefel cyfrifoldeb.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi