MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £20,000.00 - £25,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 11 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu (Generig Lefel 2) (Ysgol Maesydderwen)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £23,500 i £23,893 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.18 i £12.38 yr awr

Cynorthwyydd Addysgu (Generig Lefel 2) (Ysgol Maesydderwen)
Swydd-ddisgrifiad
Am y rôl:
Gan weithio dan oruchwyliaeth gyffredinol yr athro cyfrifol, cynorthwyo a chefnogi'r addysgu a'r dysgu, gan weithio gydag unigolion neu grwpiau a chynorthwyo i ddarparu ar gyfer gofal, diogelwch a lles cyffredinol y disgyblion.

Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu â ysgol.
Bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys:
Cyfrifoldeb am eraill: Mae'r swydd yn effeithio ar les unigolion neu grwpiau drwy helpu gydag asesu angen a chynnydd disgyblion, datblygu a gweithredu cynlluniau a rhoi cymorth i ddisgyblion ag anghenion arbennig/personol ychwanegol.
Cyfrifoldeb am staff: Prin yw cyfrifoldeb uniongyrchol y swydd am oruchwylio staff eraill er gall fod disgwyl i ddeiliad y swydd arddangos tasgau neu gynghori/arwain cyflogeion newydd, pobl ar brofiad gwaith neu bobl dan hyfforddiant.
Cyfrifoldeb am adnoddau ariannol: Nid oes gan y swydd gyfrifoldeb uniongyrchol o gwbl am adnoddau ariannol heblaw ymdrin weithiau â symiau bach o arian, prosesu sieciau, anfonebau etc.
Cyfrifoldeb am adnoddau ffisegol: Mae gan y swydd rywfaint o gyfrifoldeb am adnoddau ffisegol, drwy baratoi deunyddiau/adnoddau addysgu a gofalu amdanynt a
chadw cofnodion diogel a chywir.
Mae'r canlynol yn ychwanegol at ddyletswyddau a chyfrifoldebau nodweddiadol Cynorthwyydd Addysgu 1 Cynradd/Uwchradd.
Cefnogi'r cwricwlwm:
• Cyfrannu at gynllunio a gwerthuso'r cwricwlwm a chynorthwyo i'w weithredu
• Cynorthwyo i gyflenwi gwersi/sesiynau a rhyngweithio â'r athro a'r disgyblion yn ôl y gofyn
• Ymgymryd â gweithgareddau dysgu/rhaglenni addysgu y cytunwyd arnynt, gan addasu gweithgareddau yn unol ag ymatebion y disgyblion.
• Cefnogi a defnyddio TGCh mewn gweithgareddau dysgu a datblygu gallu ac annibyniaeth y disgyblion i'w defnyddio.
Cefnogi'r disgyblion:
• Cefnogi unigolion neu grwpiau yn ystod gwaith grŵp / annibynnol, e.e. egluro tasgau, atgyfnerthu amcanion/cysyniadau neu eirfa allweddol, defnyddio cyfarpar ymarferol, cefnogi disgyblion llai galluog, ymestyn/herio disgyblion mwy
galluog, cadw'r disgyblion yn canolbwyntio ar dasg, a chynnal eu diddordeb, eu cymhelliant a'u hymgysylltiad.
• Cymorth achlysurol i'r dosbarth cyfan am gyfnodau byr (e.e. darllen stori).
• Helpu disgyblion i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a gwaith chwarae rôl.
• Hyrwyddo cynnwys a derbyn pob disgybl, eu hannog i ryngweithio a chydweithio a chymryd rhan mewn gweithgareddau.
• Hyrwyddo annibyniaeth a datblygu hunan-barch.
• Cynorthwyo gyda datblygiad personol, cymdeithasol, emosiynol y disgyblion a datblygu eu hunan-barch.
• Cynorthwyo i ddatblygu a gweithredu Cynlluniau Addysg Unigol/Cymorth Bugeiliol.
• Defnyddio sgiliau / gwybodaeth/ hyfforddiant arbenigol i roi cymorth mewn meysydd arbenigol.
• Annog ac atgyfnerthu rhyngweithio cadarnhaol rhwng y disgyblion gan weithio yn unol ag unrhyw dargedau ymddygiad a osodwyd.
• Arsylwi, adnabod a rhoi gwybod am batrymau ymddwyn annodweddiadol.
• Cynorthwyo i oruchwylio disgyblion ar deithiau i ffwrdd o'r safle, dan gyfarwyddyd cyffredinol yr athro
• Monitro gofal, diogelwch a lles cyffredinol y disgyblion a darparu ar gyfer y rhain, gan gynnwys tasgau sy'n gysylltiedig â'u cynhwysiant cymdeithasol a'u gofal personol/corfforol.
Cefnogi'r athro:
• Gweithio i safonau cyfrinachedd yr ysgol
• Cynorthwyo gwaith i gynllunio, cyflenwi a gwerthuso gwersi/gweithgareddau
• Monitro unigolion/grwpiau yn cyflawni amcanion allweddol a rhoi adborth i'r athro
• Cyfrannu at asesu disgyblion drwy arsylwi ac adrodd
• Cofnodi gwybodaeth sy'n berthnasol i asesu ac adolygu cynnydd disgyblion
• Mynychu cyfarfodydd Cynllun Addysg Unigol a chyfarfodydd adolygu datganiad os yw'n briodol
• Cefnogi gweithredu strategaethau i reoli ymddygiad disgyblion a helpu i reoli ymddygiad disgyblion
• Mynd ati i gyfrannu at reoli'r amgylchedd dysgu o ddydd i ddydd, gan gynnwys cyfrifoldeb am baratoi cymhorthion, offer, deunyddiau ac adnoddau addysgu gwahaniaethol a gofalu amdanynt.
• Gwneud tasgau gweinyddol rheolaidd ac afreolaidd, e.e. llunio taflenni gwaith, gweinyddu gwaith cwrs ac asesiadau, goruchwylio arholiadau
• Cysylltu â rhieni/gofalwyr, athrawon arbenigol a staff proffesiynol eraill, rhannu a darparu gwybodaeth

Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS.