MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Grade 5 | SCP 11-17 | £25,979 - £28,770 PRO RATA
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 11 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Gweithiwr Cymorth (Cynorthwydd Dysgu) - ADY

Torfaen Local Authority

Cyflog: Grade 5 | SCP 11-17 | £25,979 - £28,770 PRO RATA

Agorwyd Uned Cyfeirio Disgyblion Torfaen ym mis Mehefin 2009. Mae'n Uned sy'n cynnig addysg i blant a phobl ifanc sy'n wynebu anawsterau cymdeithasol, emosiynol a/neu ymddygiadol, y rheiny sydd wedi cael eu gwahardd yn barhaol neu sy'n disgwyl symudiad wedi'i rheoli, neu'r rheiny y mae eu pryderon neu eu hanghenion meddygol yn eu hatal rhag mynd i'r ysgol.

Mae cyfle cyffrous wedi codi yn yr UCD i benodi cynorthwyydd addysgu L3 sy'n ddeinamig ac ysbrydoledig. Rhaid i'r ymgeiswyr llwyddiannus fod yn wydn, yn greadigol ac yn hyblyg gyda'r awydd i ddod yn aelodau allweddol o dîm yr ysgol. Bydd y rôl yn cynnwys gweithio o dan arweiniad y staff addysgu ac aelodau o Dîm Arweinwyr yr Ysgol er mwyn cefnogi'r gwaith o gyflwyno'r cwricwlwm yng Nghyfnod Allweddol 3 a 4.

Byddwch yn gweithio o dan arweiniad, i gynorthwyo i fynd i'r afael ag anghenion myfyrwyr sydd angen cymorth penodol i oresgyn rhwystrau i ddysgu. Byddwch yn cefnogi unigolion a grwpiau o fyfyrwyr i alluogi mynediad at ddysgu a chynorthwyo'r athro i reoli myfyrwyr yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt. O bryd i'w gilydd byddwch yn goruchwylio dosbarthiadau cyfan yn ystod absenoldeb yr athro yn y tymor byr. Gall gwaith allgymorth a chysylltu ag ysgolion prif ffrwd ac ymweld â nhw, hefyd fod yn rhan o'r rôl hon.

Bydd gennych gymhwyster NVQ Lefel 3 ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu neu gymhwyster cyfatebol. Mae amynedd, dealltwriaeth, agwedd ofalgar a'r gallu i gefnogi ac adeiladu perthnasoedd cadarnhaol yn hanfodol yn y rôl hon.

Byddwch yn cyd-dynnu fel aelod o dîm, gyda'r gallu i drefnu a chynllunio eich amser eich hun mewn ffordd flaengar. Os ydych chi'n cael eich ysgogi gan y ffordd y mae plant yn dysgu, ac yn gallu mynd ati i ysbrydoli ein plant, rydyn ni'n edrych ymlaen at glywed gennych chi.

Am fod hon yn swydd yn ystod y tymor, rhaid cymryd gwyliau pan fydd ysgolion yn cau. Bydd y broses benodi yn cynnwys cyfweliad gydag aelodau o dîm arweinwyr yr ysgol a detholiad o Aelodau'r Pwyllgor Rheoli.

Os oes gennych y brwdfrydedd a'r awydd i weithio mewn amgylchedd blaengar ac arloesol, mae UCD Torfaen yn croesawu eich cais. I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Sarah Pugh, Pennaeth, neu Viv Hunt, Rheolwr Cynhwysiant, ar 01495 742859.

Mae'r swydd hon yn destun Cais Datgelu Uwch i'r Swyddfa Cofnodion Troseddol.

Rhaid bod ymgeiswyr wedi cofrestru gyda'r CGA - Cyngor y Gweithlu Addysg

Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.

Dyddiad Cau: Dydd Iau 11 Gorffennaf,
Rhestr fer: Dydd Gwener 12 Gorffennaf
Cyfweliadau: Wythnos yn dechrau 15 Gorffennaf.

Wrth wneud cais, defnyddiwch adran Datganiad Ategol y ffurflen gais i ddangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf ar gyfer y swydd.