MANYLION
- Lleoliad: Llanisien, Cardiff, CF14 5GF
- Testun: Gwaith Ieuenctid
- Oriau: Amser llawn
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Blynyddol
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Cydlynydd Prentisiaethau, Chwaraeon, Hamdden, Awyr Agored a Ffitrwydd
Urdd Gobaith Cymru
Teitl y Swydd: Cydlynydd Prentisiaethau, Chwaraeon, Hamdden, Awyr Agored a Ffitrwydd
Math o gontract: Swydd barhaol, llawn amser (35 awr yr wythnos)
Graddfa: Gweithredol 5: £30,216 - £33,662
Lleoliad: Ystyriwn ceisiadau o bob rhan o Gymru
Amdanom ni
Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922 wedi cynnig profiadau gwerthfawr i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy feysydd Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol, Rhyngwladol a Gwirfoddol.
Rydym wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.
Dyma felly ddatgan ein huchelgais i barhau i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith a’r bobl ifanc Cymru. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc ein gwlad, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.
Y Swydd
Dyma gyfle i ymuno gydag Adran Brentisiaethau’r Urdd mewn rôl allweddol. Mae’r rôl cydlynydd yn hanfodol wrth sicrhau rhediad effeithiol ein gweithdai a sesiynau dysgu.
Dyddiad Cau – 18/07/24
Dyddiad Cyfweld – w/c 23/07/24
Am fwy o fanylion cysylltwch â Catrin Davis (Pennaeth Prentisiaethau) ar 07930 964625 neu catrindavis@urdd.org
Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at swyddi@urdd.org
Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.