MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £10,000.00 - £15,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 11 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 1 (Cefnogaeth Unigol)

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol yr Hafod

Johnstown

Wrecsam

Ffôn: 01978 840643

Pennaeth: Alison Heale

CYMHORTHYDD ADDYSGU LEFEL 1 ( Cefnogaeth Unigol )

G03 £14,102 - £14,336 y flwyddyn

27.5 awr yr wythnos

Dros dro tan 31/03/2025

YN YSTOD Y TYMOR YN UNIG HEB UNRHYW WYLIAU YN YSTOD Y TYMOR

Mae'r Corff Llywodraethu yn dymuno penodi Cymhorthydd Addysgu Lefel 1 i ddarparu cefnogaeth un-i-un i ddisgybl ag anghenion ymddygiad.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi'r disgybl yn y dosbarth ac yn gweithio'n unigol ar gynllun addysg a baratowyd.

Rydym ni'n chwilio am rywun sy'n meddu ar y canlynol:

• Meddylfryd cadarnhaol ac ymarweddiad di-gyffro

• Gallu i ddefnyddio strategaethau ymddygiad cadarnhaol

• Dealltwriaeth o arferion sy'n ystyriol o drawma

• Amynedd diddiwedd, caredigrwydd, gwytnwch a chydymdeimlad

• Profiad o ddysgu drwy chwarae

I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, cysylltwch â'r Pennaeth ar y rhif ffôn uchod.

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.

Dylid dychwelyd ceisiadau wedi'u cwblhau yn uniongyrchol i'r Pennaeth gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod:

HealeA4@Hwbcymru.net

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

DYDDIAD CAU: 11 Gorffennaf 2024