MANYLION
- Lleoliad: Wrexham,
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Not Supplied
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Disgrifiad
Cyfnod Penodol i gychwyn ym Medi 2024 tan 31/03/2025, 1 x 21 awr yr wythnos
Mae gennym 1 swydd cyfnod mamolaeth ar gyfer goruchwylwyr crèche Dechrau'n Deg, rhan amser, cyfnod penodol mewn gwahanol leoliadau yn ardal Wrecsam. Mae'r gallu i weithio'n hyblyg a theithio rhwng gwahanol leoliadau ledled Wrecsam yn hanfodol.
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ddangos agwedd hyblyg; ymdeimlad cryf o waith tîm a lefel uchel o ddealltwriaeth o ddatblygiad plant. Byddai profiad o weithio â rhieni/gofalwyr a phlant ifanc yn fanteisiol.
Bydd angen i ddeiliad y swydd ddarparu gofal crèche o safon uchel a byddant yn gyfrifol am drefnu a chyflwyno rhaglen ysgogol ac amrywiol o weithgareddau i blant 4 oed ac iau, o fewn grŵp / neu'n unigol.
Mae angen brwdfrydedd, dealltwriaeth dda o ddatblygiad plant, yn ogystal â sgiliau cyfathrebu da ar gyfer y swydd hon.
Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol.
Mae teithio rhwng lleoliadau yn rhan hanfodol o'r swydd.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Vicki Sadowska Rheolwr Cymorth i Deuluoedd a Rhianta, Dechrau'n Deg ar 01978 298300.
Mae'r swydd hon yn amodol ar Wiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.