MANYLION
  • Lleoliad: Schools,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Salary Range: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 03 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Tiwtor Cerdd Offerynnol x5

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: Graddfa cyflog athrawon & costau teithio rhwng ysgolion a’r brif safle

Lleoliad gwaith: Sir Conwy

Ar gyfer mis Medi 2024

TIWTORIAID OFFERYN CERDD

(yn benodol gitâr, piano, llais, drymiau & chwythbrennau)

Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon

Oriau: Yn ôl yr angen
Costau teithio rhwng ysgolion a'r brif safle

Allwch chi chwarae rhan yn ein gwasanaeth cerdd llwyddiannus?

Rydym yn dîm cyfeillgar yn Sir Conwy sy'n edrych ymlaen i'r dyfodol, yn enwedig yn nyfodiad y Cynllun Cerdd Cenedlaethol newydd gan Llywodraeth Cymru.

Mae gennym swydd ar gyfer tiwtor gitâr a phiano brwdfrydig, all roi gwersi wythnosol i ddisgyblion cynradd ac uwchradd ond rydym yn croesawu ceisiadau gan diwtoriaid sydd yn brofiadol dysgu ystod o offerynnau eraill. Gwahoddir ceisiadau gan diwtoriaid cerdd gyda chymwysterau a/neu brofiad priodol. Cyflogir yr ymgeisydd llwyddiannus yn unol â thelerau athrawon llanw. Buasai yn fanteisiol petai yr ymgeisydd llwyddiannus yn brofiadol cynnal a gweithredu grwpiau/ensemblau/cerddorfoaedd ac sydd gyda phrofiad o gynnal gwersi cwricwlwidd mewn dosbarth a/neu sydd a phofiad o ddefnyddio offer digidol cerddorol.

Oherwydd natur y swydd bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae yn ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda y Cyngor Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon

Cysylltwch â Mrs Rhianwen Tonon, Rheolwr Gwasanaeth Cerdd ar 01492 574690 os am drafodaeth anffurfiol.

Noder nid yw'r awdurdod yn cyhoeddi ffurflenni cais ac nid yw'n derbyn CV.

Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Rhianwen Tonon Rheolwr Gwasanaeth Cerdd Conwy 01492 574 690 Rhianwen.tonon@conwy.gov.uk

Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon er hynny rydym yn annog ymgeiswyr sy'n rhugl yn y Gymraeg i ymgeisio am y swydd. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.

Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.

Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.

This form is also available in English.