MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £24,294 - £25,545 Pro Rata | Grade 4
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 (Nghamau cynnydd 1 & 2) - Ysgol Gymraeg Gwynllyw

Torfaen Local Authority

Cyflog: £24,294 - £25,545 Pro Rata | Grade 4

Cychwyn Medi 2024

Rydym am benodi Cynorthwy-ydd Addysgu ymroddedig a chymwys i ymuno â'n hysgol.

Rydym am benodi Cynorthwy-ydd Addysgu i weithio 32.5 awr yr wythnos ar draws 5 diwrnod gwaith rhwng 8.15yb - 3:15yp*. Mae'r rôl yn ystod y tymor ysgol yn unig (39 wythnos).

Dyma gyfle arbennig i ymuno ag ysgol sydd ar drothwy cyfnod cyffrous yn ei hanes. Mae'r ysgol wedi agor i fod yn yr ysgol bob oed (3-19) cyntaf Awdurdod Addysg Torfaen yn Medi 2022 wrth i'n hadran sylfaen groesawu ein disgyblion cyntaf. Rydym yn cyd-gynllunio fel tîm i baratoi ar gyfer trefniadau cwricwlwm i Gymru, gan gynnwys edrych ar ein cwricwlwm, addysgu, mesur cynnydd a'n trefniadaeth gyffredinol.

Rydym yn blaenoriaethu datblygiad proffesiynol ein staff fel prif ffocws. Mae gennym dîm brwdfrydig o staff yma yng Ngwynllyw, sydd yn cydweithio'n dda i ymroi i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad dysgwyr.

Rydym am benodi Cynorthwy-ydd Addysgol eithriadol gydag angerdd am gynorthwyo ein dysgwyr i lwyddo. Chwiliwn am unigolyn deinamig, gyda disgwyliadau uchel ac ymrwymiad i wella cyrhaeddiad ein dysgwyr ifanc. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn unigolyn creadigol, cadarnhaol, gyda'r gallu i gydweithio fel aelod o dîm sy'n gosod esiampl dda o ran gwisg, prydlondeb a phresenoldeb ac yn modelu gwerthoedd ein hysgol yn effeithiol.

Prif gyfrifoldebau:
  • Gweithio o dan gyfarwyddyd ac arweinyddiaeth Arweinydd Camau Cynnydd 1 & 2 neu aelodau o'r Uwch Dim Arwain yn ddyddiol yn y prosesau o sicrhau cefnogaeth Gofal Personal a chefnogaeth addysgiadol i ddisgyblion.
  • Cefnogi disgyblion unigol neu grwpiau bach o ddisgyblion er mwyn sicrhau mynediad i ddysgu
  • Cynorthwyo'r staff dysgu yn y prosesau o addasu gwaith lle bo angen er lles y disgybl.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ochr yn ochr â'r Athrawon Dosbarth yng Nghamau cynnydd 1 & 2- wrth cefnogi ein dysgwyr.

Gallwn gynnig y cyfleoedd canlynol i'r ymgeisydd llwyddiannus:

Gweithio gyda dysgwyr gydag ymddygiad rhagorol, sy'n llawn cymhelliant ac yn awyddus i ddysgu

Gweithio o fewn tîm cefnogol, cyfeillgar

Mynediad at ddysgu proffesiynol trwy ystod o gyfleoedd hyfforddi

Gweithio mewn ysgol sy'n hybu lles staff

Gweithio gyda theuluoedd a llywodraethwyr cefnogol.

Mawr obeithiwn y byddwch yn gwneud cais i ymuno â ni wrth i ni ddatblygu a gwella gyda golwg clir ar y dyfodol. Gofynnir i chi gwblhau ffurflen gais a'i ddychwelyd atom erbyn 23:59 ddydd Sul, 23ain o Fehefin.

Os ydych am drafod y swydd ymhellach, cysylltwch â'r ysgol i siarad â'r Dirprwy Bennaeth, Gareth Jones.

Mae'r swydd hon yn amodol ar wiriad DBS manylach. Mae'r ysgol yn cydymffurfio â Rheoliadau Gofal Plant (Anghymhwyso) 2009, drwy sicrhau nad yw staff yn cael eu gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Trefnir cyfweliadau wrth i geisiadau ddod i law. Anogir ymgeiswyr felly i gyflwyno eu ffurflenni cais cyn gynted â phosibl. Rydym yn cadw'r hawl i dynnu'r hysbyseb hon yn ôl cyn y dyddiad cau ar gyfer penodi ymgeisydd addas.