MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Salary Range: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 05 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Pennaeth (Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Priordy)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: ISR:10-16

Pennaeth (Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Priordy)
Swydd-ddisgrifiad
PENNAETH

ISR:10-16 NOR: 156

Gofynnol ar gyfer Mis Ionawr 2025

Mae Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Priordy yn ysgol arloesol greadigol sy'n angori lles plant, teuluoedd a staff at ethos Gristnogol gref. Rydym wedi ein lleol ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mewn ardal brydferth o'r byd, ble mae'r plant yn elwa wrth ddysgu yn yr awyr agored.

Mae Corff Llywodraethu'r Ysgol Gynradd lwyddiannus hon yn dymuno penodi Pennaeth profiadol, ysbrydoledig a brwdfrydig sydd:
  • yn arweinydd cydweithredol iawn â thystiolaeth o arbenigedd wrth godi safonau a darparu arweiniad a chyfeiriad strategol
  • yn effeithiol wrth ddatblygu ac ysgogi staff ar bob lefel ac yn gallu hyrwyddo'r ysgol fel sefydliad dysgu
  • yn deall cyd-destun a gwerthoedd ysgol Yr Eglwys yng Nghymru
  • yn ymarferydd ardderchog yn yr ystafell ddosbarth â thystiolaeth o ymarfer llwyddiannus yn yr ystafell ddosbarth
  • yn meddu ar weledigaeth glir i ddatblygu'r ysgol ymhellach gan gynnal ethos ein hysgol
  • yn brofiadol o ran rheoli arian yn effeithiol
  • yn meddu ar ddyheadau uchel i'n disgyblion gan hybu a dathlu eu cyflawniadau
  • bydd yn annog disgyblion i arwain eu dysgu eu hunain a sicrhau fod llais disgyblion yn gwneud cyfraniad cryf at gyfeiriad strategol yr ysgol
  • yn meddu ar ymrwymiad wrth ddarparu ymagwedd sy'n seiliedig ar feithrin o ran lles y disgyblion
  • bydd yn arwain ac ysgogi disgyblion, staff a llywodraethwyr i greu diwylliant effeithiol o ddysgu a pharhau i ddatblygu'r Cwricwlwm i Gymru
  • yn gallu cyfathrebu'n effeithiol ar bob lefel gyda'n plant, rhieni, llywodraethwyr a staff, ac yn gallu creu partneriaeth agos rhwng yr ysgol a'r gymuned ehangach
  • yn deall pwysigrwydd cefnogi dysgwyr sy'n agored i niwed a'u teuluoedd
Mae ymrwymiad addysgu 2 ddiwrnod gan y swydd hon ar hyn o bryd. Gallwn gynnig y canlynol i chi: staff a chorff llywodraethu brwdfrydig a chydwybodol sy'n ymroddedig i symud yr ysgol yn ei blaen i sicrhau fod pob disgybl yn cyflawni'r deilliannau sydd o fewn ei afael.

Fel ysgol, gallwn gynnig ymrwymiad llywodraethwyr, staff a disgyblion i'ch cefnogi chi i gynnal llwyddiant Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Priordy.

Fe'ch anogir i ymweld â'n hysgol. Cysylltwch â Chadeirydd y Llywodraethwyr, y Cynghorydd Mathew Dorrance, drwy e-bost i drefnu ymweliad [email protected]

Dyddiad cau: 5/7/24

Rhagwelir y bydd y rhestr fer a'r cyfweliadau yn digwydd fel a ganlyn:

(gallai fod yn amodol ar newid)

Creu Rhestr Fer: 9/7/24

Cyfweliadau: 16/7/24

Mae gofyn bod â Gwiriad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).