MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Graddfa Gyflog L17 - L21
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Dirprwy Bennaeth (Ysgol Robert Owen - Ysgol Cedewain cynt)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa Gyflog L17 - L21

Dirprwy Bennaeth (Ysgol Robert Owen - Ysgol Cedewain cynt)
Swydd-ddisgrifiad
DIRPRWY BENNAETH PARHAOL

Graddfa Gyflog L17 - L21

£69,189 - £76,334

Amser Llawn - Parhaol

I ddechrau cyn gynted â phosibl

Ynglŷn â'r ysgol

Mae Corff Llywodraethu Ysgol Cedewain am benodi Dirprwy Bennaeth rhagorol, deinamig, creadigol a blaengar, i weithio'n agos gyda'n Pennaeth i hybu cyflawniadau'r Ysgol Arbennig hapus, ofalgar a bywiog hon.

Mae Ysgol Robert Owen yn ysgol anghenion arbennig sydd ar gynnydd, yn uchelgeisiol a blaengar ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dwys, difrifol a chymhleth, ac mae llawer ohonynt ar y Sbectrwm Awtistig. Rydym yn credu yn ein hethos, Natur, Meithrin, Gwybodaeth.

Ym mis Medi 2024 byddwn yn symud i mewn i'n hadeilad newydd, pwrpasol, 21ain ganrif, gwerth miliynau o bunnoedd, yn y Drenewydd, Powys gan ddechrau ein siwrnai fel Ysgol Robert Owen. Bydd yr amgylchedd dysgu unigryw hwn yn cael effaith wirioneddol ryfeddol a chadarnhaol ar addysg ein plant am genedlaethau ac ar ddatblygiad proffesiynol ein staff.

Bydd adeilad yr ysgol yn adlewyrchiad unigryw a dilys o'n gwerthoedd craidd a'n hethos. Fel cymuned ysgol rydym yn ystyried yn ofalus beth sy'n ein gosod ar wahân. Mae 'ysbrydoledig,' 'deallgar,' 'dewr,' 'brwdfrydig,' 'bywiog,' 'ymroddedig,' a 'gofalgar' yn rhai o'r geiriau sy'n diffinio ac yn arwain ein rhyngweithio dyddiol â'r plant.

Mae gennym ddisgwyliadau/dyheadau uchel iawn ar gyfer yr holl ddisgyblion. Rydym yn ymdrechu'n barhaus i sicrhau eu bod oll yn cyrraedd eu llawn botensial, yn dathlu gwahaniaeth ac yn annog chwilfrydedd a chreadigedd. Mae gennym dîm staff cryf ac ymroddedig sy'n gweithio'n galed i sicrhau bod anghenion, diddordebau a galluoedd pawb yn cael eu diwallu. Rydym yn sicrhau bod pob un o'n disgyblion yn dod yn unigolion cryf sydd ag amrywiaeth o opsiynau ac yn gallu gwneud dewisiadau bywyd cadarnhaol.

Bydd cyfleusterau rhyfeddol yn cefnogi'n dysgu, ein mwynhad a'n hymgysylltiad gyda hyn. Yn eu plith fydd amgylchoedd addysgu pwrpasol, ystafell technoleg bwyd, ystafell ddylunio a thechnoleg, ardal gelf, pwll dŵr, neuadd chwaraeon, mannau chwarae, ystafell therapi adlam ac ardal therapiwtig â chyfarpar arbennig o dda. Mae hwn yn gyfleuster cwbl arloesol a bydd ar flaen y gad o ran datblygu darpariaeth ADY ym Mhowys a Chymru gyfan.

Mae gan Ysgol Robert Owen amgylchedd dysgu hapus lle mae "Rhagoriaeth yn cwrdd â chyfleoedd" ac mae hyn yn crisialu'r math o ddysgu rydym yn ei hyrwyddo o fewn ein cymuned. Gan ein bod yn credu ei bod yr un mor bwysig i'n staff ddatblygu, byddwn yn cefnogi ac yn datblygu eich arbenigedd a'ch proffesiynoldeb.

Rydym yn chwilio am ymgeisydd sydd yn:
  • Gallu meddwl yn eang, bod yn ddeinamig, sbarduno gwelliannau a bod yn feddylgar a diwyd yr un pryd
  • Profiad profedig o reoli ac arwain mewn ysgol, yn ddelfrydol fewn sector ADY.
  • Yn athro ysbrydoledig sy'n arwain trwy ymarfer rhagorol ac sy'n gallu gwella ansawdd yr addysgu ar draws yr ysgol.
  • Gallu ysbrydoli'r safonau uchaf o ran addysgu, dysgu, llesiant a chefnogaeth.
  • Meddu ar ddisgwyliadau a dyheadau uchel a hyrwyddo ac dathlu cyflawniadau ein holl blant.
  • Yn drefnus, gyda sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol.
  • Bydd yn ysbrydoli ac ysgogi ein staff a'n plant tra'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi.
  • Parhau i hyrwyddo ymdeimlad cryf o ymgysylltu â rhieni a chymuned ehangach yr ysgol.
  • Gallu gweithio mewn partneriaeth agos gyda'r Pennaeth a'r Uwch Dîm Arwain (SLT) i arwain ein staff ymroddedig a dawnus.
Yn gyfnewid, gallwn gynnig:
  • Cyfle cyffrous i wneud gwahaniaeth gwirioneddol a chyfrannu at arwain darpariaeth anghenion arbennig sy'n datblygu'n gyflym.
  • Rôl lle rydych yn cael eich cynnwys yn llawn wrth wneud penderfyniadau arweinyddiaeth er mwyn i'r ysgol barhau i ffynnu a datblygu agwedd arloesol at addysg.
  • Staff addysgu a chymorth proffesiynol, angerddol ac ymroddedig, sy'n barod ac yn awyddus i ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus.
  • Plant dawnus a brwdfrydig sydd ag awydd i ddysgu.
  • Corff Llywodraethu ymroddedig, profiadol a fydd yn gweithio mewn partneriaeth â chi.
  • Perthynas waith agos gyda rhieni, ysgolion clwstwr a'r Awdurdod Lleol.
Bydd angen gwiriad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd yma.

Mae'r swydd wag hon yn addas ar gyfer ei rhannu.

Dim ond drwy Safle Recriwtio Cyngor Sir Powys y byddwn yn derbyn ceisiadau ar gyfer y swydd hon.

Dyddiadau Allweddol

Os hoffech sgwrs anffurfiol gyda'r pennaeth ynglŷn â'r swydd cysylltwch â'r ysgol fel uchod.

Cysylltwch â Kristy Thomas ar [email protected] neu Ffoniwch: 01686 627454