MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa 2 Pwynt 1 i Bwynt 2 £23,152 y flwyddyn ar gyfartaledd £12 y awr
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Cyffredinol yn y Gegin Lefel 1 (Ysgol Gynradd Crughywel)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 2 Pwynt 1 i Bwynt 2 £23,152 y flwyddyn ar gyfartaledd £12 y awr

Cynorthwyydd Cyffredinol yn y Gegin Lefel 1 (Ysgol Gynradd Crughywel)
Swydd-ddisgrifiad
Rydym wedi estyn y dyddiad cau tan 28/07/24

Ar hyn o bryd mae gan Gyngor Sir Powys dâl atodol Cyflog Byw Gwirioneddol yn ôl disgresiwn i weithwyr sy'n ennill llai na £12.00 yr awr.

Bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys:
  • Cydymffurfio â'r Ddeddf Safonau Bwyd ar bob adeg a Pholisïau a Gweithdrefnau Gwasanaethau Arlwyo Powys gan gynnwys y polisi Hylendid a'r Polisi Golchi Dwylo. Sicrhau safon dda o arferion gwaith diogel ar bob adeg.
  • Cynorthwyo gyda rheoli stoc, storio, paratoi, coginio a chludo a gweini prydau bwyd ar ac oddi ar y safle, yn unol â gofynion y gwasanaeth.
  • Cynorthwyo paratoi'r ardal fwyta ar gyfer gwasanaeth, gan gynnwys gosod a symud byrddau a chadeiriau ar gyfer prydau bwyd a chlirio a glanhau wedyn. Paratoi'r ardal weini yn barod ar gyfer gweini bwyd.