MANYLION
- Lleoliad: Colwyn Bay,
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £30,296 - £33,945 y flwyddyn (G06)
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Cyflog: £30,296 - £33,945 y flwyddyn (G06)
Lleoliad gwaith: Coed PellaYdych chi'n teimlo'n frwd dros helpu pobl ifanc, gwneud gwahaniaeth a chreu cyfleoedd cadarnhaol all newid bywydau pobl ifanc? Os felly, mae gennym ni'r cyfle delfrydol i chi. Rydym yn chwilio am unigolyn gweithgar, brwdfrydig a llawn cymhelliant i ymuno â'n tîm fel Swyddog Datblygu Prosiectau. Gyda'r cyfle hwn, fe allech chi gael effaith a chreu newid cadarnhaol ym mywyd person ifanc.
Bydd y Swyddog Datblygu Prosiectau yn datblygu ac yn cyflwyno amrediad o weithgareddau a phrosiectau arloesol a fydd yn ennyn diddordeb pobl ifanc dros 16 oed i wella eu cyfleoedd mewn bywyd a'u sgiliau cyflogadwyedd. Bydd yn gwneud hyn gan ddefnyddio amrywiaeth o atyniadau diwylliannol megis chwaraeon, cerddoriaeth, y celfyddydau a chyfryngau digidol. Bydd y Swyddog hefyd yn gyfrifol am recriwtio, hyfforddi a goruchwylio hyd at 5 o wirfoddolwyr.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol:
Libby Duo (01492 575509 / Libby.duo@conwy.gov.uk)
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.