MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 17 Mehefin , 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Athro / Athrawes

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Cefn Mawr

Lôn Plas Kynaston

Cefn Mawr

Wrecsam

LL14 3PY

Rhif ffôn: 01978 820719

E-bost: mailbox@cefnmawr-pri.wrexham.sch.uk

Pennaeth: Mrs Andrea Green (B.Add Anrh., CPCP)

ATHRO / ATHRAWES BLWYDDYN 5

Llawn Amser dros dro o Fedi 2024 tan Ebrill 2025

Mae Llywodraethwyr Ysgol Cefn Mawr yn edrych i benodi ymarferydd ystafell ddosbarth brwdfrydig, llawn cymhelliant ac ysbrydoledig i ymuno â thîm Cyfnod Allweddol 2. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymdrechu i adeiladu ar yr enw da sydd gan yr ysgolam fod yn ofalgar ac yn gynhwysol ac sy'n sicrhau safonau uchel o gyrhaeddiad a lles. Croesawir ceisiadau gan athrawon sydd newydd gymhwyso. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:

• Credu mewn dull cyfannol ar gyfer addysgu a dysgu, lle mae lles disgyblion wrth wraidd yr ymarfer

• Disgwyl pethau gwych gan ddisgyblion ac yn arddangos dealltwriaeth o anghenion dysgu ac ymddygiad amrywiol y plant

• Ymwybodol o fentrau newydd o fewn y byd addysg, fel Cwricwlwm i Gymru a Diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

• Gallu arddangos sgiliau rhyngbersonol ardderchog er mwyn gweithio o fewn y Cyfnod Allweddol a thîm yr ysgol, rheoli a chefnogi cymorthyddion addysgu yn effeithiol a chyfathrebu'n dda gyda rhieni/gwarcheidwaid

• Defnyddio technoleg ddigidol yn hyderus a chreadigol

• Gallu cymryd rhan weithredol ym mywyd ehangach yr ysgol

• Hyrwyddo'r Gymraeg, diwylliant a thraddodiadau Cymru fel rhan o'u hymarfer dyddiol

YMWELIADAU: trwy apwyntiad. Ffoniwch yr ysgol i gadarnhau y byddwch yn bresennol - 01978 820719 neu anfonwch e-bost at mailbox@cefnmawr-pri.wrexham.sch.uk

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r ysgol drwy ffonio 01978 820719

Dylid dychwelyd ceisiadau wedi'u cwblhau yn uniongyrchol i'r Pennaeth gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod:

mailbox@cefnmawr-pri.wrexham.sch.uk

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

DYDDIAD CAU: 17 Mehefin 2024