MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 17 Mehefin , 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol I D Hooson

Heol Caradog

Rhosllannerchrugog

LL14 2DX

01978 832950

Pennaeth: Mr Rhodri Jones

CYMORTHYDD ADDYSGU LEFEL 2

G04 £14,605 - £14,849 y flwyddyn

27.5 awr yr wythnos

I gychwyn yn mis Medi 2024

Dros dro tan 31/08/2025 yn yr achos gyntaf

Mae'r Corff Llywodraethu yn dymuno penodi Cymhorthydd Addysgu Lefel 2 i weithio o dan gyfarwyddyd/arweiniad uniongyrchol y staff addysgu/ staff uwch, o gyflawni rhaglenni gwaith/gofal/cymorth, i ganiatáu mynediad disgyblion at ddysgu a darparu cymorth cyffredinol i'r athrawon i reoli'r disgyblion a'r ystafell ddosbarth. Gallai'r gwaith gael ei gyflawni yn yr ystafell ddosbarth neu tu allan i'r dosbarth drwy waith gyda grwpiau bach neu unigolion. Bydd y gallu i gyfathrebu'n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

I gael rhagor o wybodaeth ac i gael sgwrs anffurfiol am y swydd cysylltwch â'r Pennaeth ar y rhif uchod.

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.

Dylid dychwelyd ceisiadau wedi'u cwblhau yn uniongyrchol i'r Pennaeth gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod:

Headteacher@hooson-pri.wrexham.sch.uk

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran

Mae hwn yn swydd 'Cymraeg hanfodol' lle mae angen Cymraeg ysgrifenedig a llafar. Rhaid i ymgeiswyr cyflwyno cais yn y Gymraeg am y swydd yma.

DYDDIAD CAU: 17ain o Fehefin 2024