MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 17 Mehefin , 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes Cyfnod Sylfaen (Gyfnod Mamolaeth)

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol I D Hooson

Rhossllannerchrugog

LL14 2DX

01978 832950

Pennaeth: Mr Rhodri Jones

Athro/Athrawes Cyfnod Sylfaen

Prif Raddfa Gyflog

Swydd llawn amser dros gyfnod mamolaeth

I gychwyn o 04/11/2024 - ar ôl hanner tymor Hydref

Mae'r Corff Llywodraethol yn dymuno penodi ymarferydd ystafell ddosbarth effeithiol ac ymroddgar i addysgu yn adran cyfnod sylfaen yr ysgol dros gyfnod o ansenoldeb mamolaeth.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn gallu:

• Gwella safonau a chael effaith gadarnhaol ar ddeilliannau dysgwyr.

• Darparu profiadau dysgu ysgogol a heriol ar gyfer pob disgybl.

• Bod yn aelod o dîm hapus, brwdfrydig sy'n gallu cyfrannu'n effeithiol at ddatblygiad y cwricwlwm.

Ysgol benodol Gymraeg yw Ysgol I D Hooson, wedi'i lleoli ym mhentref Rhosllannerchrugog. Mae croeso cynnes i chi ymweld â'r ysgol drwy drefnu ymlaen llawn.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r Pennaeth ar 01978 832950 neu e-bostiwch mailbox@hooson-pri.wrexham.sch.uk.

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.

Dylid dychwelyd ceisiadau wedi'u cwblhau yn uniongyrchol i'r Pennaeth gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod:

mailbox@hooson-pri.wrexham.sch.uk.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Headteacher@hooson-pri.wrexham.sch.ukMae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo eu hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.

Mae hwn yn swydd 'Cymraeg hanfodol' lle mae angen Cymraeg ysgrifenedig a llafar. Rhaid i ymgeiswyr cyflwyno cais yn y Gymraeg am y swydd yma.

DYDDIAD CAU: 17/06/2024