MANYLION
  • Lleoliad: Cardigan,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: 86,636 - 100,343 *
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 14 Mehefin , 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Pennaeth - Ysgol Uwchradd Aberteifi

Cyngor Sir Ceredigion

Cyflog: 86,636 - 100,343 *

Ynglŷn â'r rôl
Erbyn Ionawr 2025, mae Corff Llywodraethol Ysgol Uwchradd Aberteifi am benodi Pennaeth eiddgar sydd â'r weledigaeth a'r gallu i arwain, ysbrydoli ac ysgogi holl gymuned yr ysgol. Mae Ysgol Uwchradd Aberteifi yn ysgol flaengar, amrywiol a chynhwysol, a mae'r Pennaeth presennol yn ymddeol ar ôl 12 mlynedd yn y swydd.

Gwahoddir ceisiadau gan arweinwyr profiadol, sy'n frwdfrydig ac ysbrydoledig, i adeiladu ar ein sylfaen gref, ac arwain yr ysgol yn gadarn i'r cyfnod nesaf yn ei hanes.

> Cliciwch yma i gael mynediad i'r Pecyn Recriwtio

Noder: Cedwir yr hawl i newid y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch.Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu