MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Gweinyddiaeth a Threfniadaeth Lefel 3

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Gynradd Rhosddu

Pennaeth: Mrs M A Young

YSGRIFENNYDD YSGOL

GWEINYDDU a THREFNIADAETH LEFEL 3

G05 £24,294 - £25,119

31.25 awr yr wythnos

Contract parhaol, i ddechrau ar 1 Medi 2024

YN YSTOD Y TYMOR - DIM DIWRNODAU HYFFORDDIANT

Mae Ysgol Gynradd Rhosddu yn ysgol hapus a gofalgar lle mae pawb yn ymdrechu i fod yn 'Barod, Parchus a Diogel'. Mae'r Corff Llywodraethu yn dymuno penodi ysgrifennydd i ymuno â'n tîm, i weithio dan gyfarwyddyd y Pennaeth i sicrhau bod prosesau gweinyddol, ariannol a sefydliadol yr ysgol yn gweithio'n effeithlon.

Mae dyletswyddau'r dderbynfa, fel cyfathrebu gydag ymwelwyr a sicrhau eu bod yn arwyddo i mewn, helpu rhieni, derbyn nwyddau, ateb ymholiadau dros y ffôn, yn gofyn am sgiliau rhyngbersonol ardderchog.

Am ragor o wybodaeth am y swydd, cysylltwch â'r Pennaeth ar y rhif ffôn 01978 318830.

LLENWCH Y FFURFLEN GAIS A'I HANFON YN UNIONGYRCHOL AT BENNAETH YR YSGOL

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

Sylwch fod pob swydd mewn ysgol yn destun gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

DYDDIAD CAU: 19 Gorffennaf 2024

CYFWELIADAU: Wythnos yn dechrau 29 Gorffennaf