MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £25,185 - £25,583 Pro Rata | Hourly rate: £13.05 - £13.26 | Grade 2
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 15 Rhagfyr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Gyrrwr Cludo Prydau Ysgol - Dros Dro

Torfaen Local Authority

Cyflog: £25,185 - £25,583 Pro Rata | Hourly rate: £13.05 - £13.26 | Grade 2

25 awr yr wythnos, dydd Llun i ddydd Gwener. 6 Mis.

Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf 'hanfodol' a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais - canllaw i ymgeiswyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .

Rydym yn chwilio am berson trefnus a brwdfrydig iawn sy'n llawn ysgogiad, i ymuno â'r Tîm Arlwyo - Ysgolion. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu casglu a chludo bocsys bwyd a phrydau bwyd i wahanol safleoedd ysgol yn Nhorfaen o'r gegin ganolog a bydd gennych rywfaint o wybodaeth am y Rheoliadau Diogelwch Bwyd. Bydd gofyn i chi:
  • Weithio dan oruchwyliaeth y Cogydd sy'n gyfrifol am gludo bwyd, a dilyn unrhyw gyfarwyddiadau a roddir yn y gegin ac wrth lwytho'r prydau bwyd.
  • Bod yn barod i weithio ar unrhyw adeg resymol o'r dydd i sicrhau bod y prydau bwyd yn cael eu dosbarthu'n amserol ac yn llyfn.
  • Cadw at weithdrefnau Hylendid ac Iechyd a Diogelwch a chydymffurfio â nhw.
  • Ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant yr ystyrir ei fod yn angenrheidiol ar gyfer y swydd.
  • Cadw at unrhyw ofynion a amlinellir yn Llawlyfr Gweithdrefnau Ansawdd Arlwyo Torfaen, mewn perthynas â safonau ansawdd.
  • Bod yn gyfrifol am fan i gludo prydau bwyd ac offer
  • Bod yn barod i weithio oriau ychwanegol yn ôl yr angen oherwydd absenoldeb, cynnydd yn y galw am brydau bwyd ayb.

Mae'r swydd hon wedi'i heithrio rhag Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn.
Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.